Newyddion S4C

'Eich enw da'n deilchion': Dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio i Huw Edwards

'Eich enw da'n deilchion': Dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio i Huw Edwards

Mae cyn-gyflwynydd y BBC, Huw Edwards, wedi derbyn dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd.

Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun ar ôl iddo gyfaddef mewn gwrandawiad cynharach i droseddau yn cynnwys creu delweddau anweddus o blant, a bod â 41 o luniau anweddus o blant yn ei feddiant.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Prif Ynad Paul Goldspring wrtho nad oedd yn ormodiaeth i ddweud fod ei "enw da bellach yn deilchion."

Fe fydd enw Huw Edwards ar restr troseddwyr rhyw am gyfnod o saith mlynedd.

Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys fod Edwards wedi dweud wrth bedoffeil i “fynd yn ei flaen” pan ofynnwyd iddo a oedd eisiau “lluniau a fideos drwg” o rywun oedd yn cael ei ddisgrifio’n ifanc.

Clywodd y llys hefyd ei fod yn “wir ddrwg” ganddo am y modd yr oedd wedi “niweidio ei deulu a’i anwyliaid”, ac am gyflawni’r troseddau.

Fe blediodd Edwards, 63, yn euog yn yr un llys ym mis Gorffennaf i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.

Clywodd y llys bryd hynny ei fod wedi derbyn cannoedd o luniau o natur rywiol ar WhatsApp gan ddyn arall dros gyfnod o bron i 18 mis.

Roedd 41 o'r lluniau yn rhai anweddus o blant, gyda saith yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol – categori A.

Taliadau

Ar ddechrau'r gwrandawiad dedfrydu ddydd Llun, dywedodd Ian Hope ar ran yr erlyniad: “Mae’n amlwg o'r sgwrs WhatsApp a gafodd ei darganfod bod rhan o’r sgwrs rhwng Alex Williams a Mr Edwards yn rhywiol ei natur.

“Mae’n amlwg hefyd fod Mr Edwards wedi talu symiau ansylweddol o arian – cannoedd isel o bunnoedd yn achlysurol – i Alex Williams, gyda Mr Williams yn gofyn yn uniongyrchol amdano ar sawl achlysur, fel anrheg, a hynny yn ôl pob golwg am anfon delweddau pornograffig i Mr Edwards."

Ychwanegodd Mr Hope fod Mr Williams wedi datgan fod yr arian yn ei "gefnogi yn y brifysgol" ac wedi dod i gyfanswm o tua £1,000 i £1,500.

Clywodd y llys hefyd fod Edwards wedi cytuno i dderbyn lluniau rhywiol o berson dan oed.

Dywedodd Mr Hope: “O’r sgwrs honno ym mis Rhagfyr 2020, dywedodd Alex Williams fod ganddo ‘ffeil o fideos a lluniau i chi o rywun arbennig’.

“Cwestiynodd Mr Edwards yn syth pwy oedd y person dan sylw ac yna anfonwyd tair delwedd o’r un person i bob golwg - ac o ddau o’r delweddau hynny, roedd modd cydnabod bod y person rhwng 14 ac 16."

Roedd y ddau hyn yn ddelweddau anweddus categori C o blant lle'r oedd y plentyn yn datgelu ei organau rhywiol.

“Dywedodd Alex Williams fod ganddo ‘12 fideo a 42 llun, rydw i wedi anfon fideo ohono i ti o’r blaen’.

“Yn fuan ar ôl i Alex Williams ofyn, 'Wyt ti eisiau i mi anfon y ffeil lawn atat?' ymatebodd Mr Edwards 'Ie xxx…' ac yn syth wedi hynny anfonodd Alex Williams tua 30 o atodiadau at Mr Edwards, tua hanner ohonynt yn ddelweddau anweddus categori C o blant.”

Image
Huw Edwards

Fe aeth Mr Hope ymlaen i ddweud bod Edwards wedi dweud wrth y pedoffeil i 'fynd ymlaen' ar ôl cynnig delweddau o bobl "ifanc" iddo.

Dywedodd Mr Hope wrth y llys: “Mewn sgwrs diweddarach ar 11 Awst 2021, dywedodd Alex Williams fod ganddo rai ‘lluniau a fideos drwg, ddim yn siwr os fysa chi'n eu hoffi’. 

Mae Mr Edwards yn dweud wrtho i ‘fynd ymlaen’ ac mae Alex Williams yn datgan ei fod yn ‘ifanc’.

“Mae Mr Edwards yn dweud wrtho eto am ‘fynd ymlaen’ ac mae Alex Williams yn anfon delwedd symudol categori A sy'n dangos plentyn gwrywaidd rhwng saith a naw oed…

“Mae Mr Edwards yn holi o ble mae’r fideo wedi dod ac mae Alex Williams yn dweud ei fod wedi dod o grŵp rhannu delweddau ar lwyfan cyfryngau cymdeithasol arall y mae’r ddau ohonyn nhw hefyd wedi’i ddefnyddio, Telegram.

“Mae Alex Williams yn dweud bod y person yn 'edrych yn eithaf ifanc' ac mae Mr Edwards yn ymateb drwy ddweud ei fod ‘yn gallu bod yn dwyllodrus’ ac yn gofyn a oes ganddo ‘fwy?’

“Mae Alex Williams yn ymateb drwy ddweud bod ganddo, ond dyw e ddim yn siŵr os fydd Mr Edwards yn eu hoffi nhw gan eu bod nhw’n anghyfreithlon.

“Mae Mr Edwards yn dweud ‘O iawn peidiwch’ ac mae’r sgwrs sy'n dilyn hynny yn ymwneud â chyfres o ddelweddau y mae Alex Williams yn eu disgrifio fel ‘edrych yn ifanc tydi ond mae bendant yn 19 oed'."

Amddiffyniad

Ar ran yr amddiffyniad, dywedodd y bargyfreithiwr Philip Evans KC nad oedd Huw Edwards yn gwneud taliadau i Alex Williams er mwyn derbyn delweddau anweddus o blant.

Dywedodd Mr Evans wrth y llys: “Ni wnaeth Mr Edwards daliadau er mwyn i ddelweddau gael eu hanfon ato, ac yn sicr ni wnaeth daliadau er mwyn i ddelweddau anweddus gael eu hanfon ato.

“Dywedodd Mr Edwards yn gadarnhaol wrth Mr Williams i beidio ag anfon delweddau o bobl dan oed.”

Ychwanegodd Mr Evans nad oedd Edwards wedi cael "unrhyw foddhad" o'r delweddau anweddus.

Dywedodd Mr Evans wrth y llys: “Wnaeth e ddim storio unrhyw un o’r delweddau hynny ar unrhyw ddyfais.

“Wnaeth e ddim eu defnyddio ar gyfer unrhyw foddhad personol ac ni chafodd unrhyw foddhad o’r delweddau anweddus hynny.

“Ni anfonodd nhw at unrhyw un arall ac nid yw erioed wedi ceisio cael delweddau tebyg o unrhyw ffynhonnell o’r blaen, ac nid yw wedi ceisio delweddau tebyg o unrhyw ffynhonnell arall ers hynny.”

Gyrfa ddisglair

Roedd y darlledwr, sy'n wreiddiol o Sir Gâr, wedi gweithio i'r BBC am 40 o flynyddoedd. 

Fe gyflwynodd raglen Jiwbilî Diemwnt y Frenhines Elizabeth yn 2012, y Jiwbilî Platinwm yn 2022, yn ogystal â phriodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011 a phriodas Dug a Duges Sussex yn 2018.

Fe hefyd wnaeth gyhoeddi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II yn 2022, ac fe gyflwynodd ddarllediad y gorfforaeth o goroni'r Brenin Charles y llynedd. 

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC ar ôl i  Huw Edwards gael ei ddedfrydu ddydd Llun: “Rydym wedi’n brawychu gan ei droseddau.

“Mae wedi bradychu nid yn unig y BBC, ond cynulleidfaoedd sy’n ymddiried ynddo.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.