Tito Jackson o'r grŵp pop Jackson 5 wedi marw
Mae Tito Jackson, oedd yn aelod o'r grŵp pop Jackson 5, wedi marw yn 70 oed.
Roedd yn frawd i'r canwr Michael Jackson.
Dywedodd ei feibion ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi eu "synnu, tristau ac yn torri eu calonnau".
"Roedd ein tad yn ddyn anhygoel oedd yn poeni am bawb a'u lles. Bydd rhai ohonoch yn ei adnabod fel Tito Jackson o'r grŵp chwedlonol Jackson 5, rhai yn ei adnabod fel 'Hyfforddwr Tito' neu rhai fel 'Poppa T'. Fodd bynnag, bydd yn cael ei golli yn ofnadwy."
Fe wnaeth Tito a'i frodyr Jackie, Jermaine, Marlon a Michael sefydlu'r grŵp The Jackon 5 ac roedd nifer o'u caneuon megis ABC ac I Want You Back yn y 70au yn boblogaidd.
Roedd hefyd yn frawd i'r cantorion Janet a La Toya Jackson.
Llun: Wochit