Newyddion S4C

Ymgais i lofruddio Trump: Beth ydyn ni'n ei wybod?

Trump

Cafodd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, ei ruthro i ddiogelwch ddydd Sul yn dilyn yr hyn y mae'r heddlu'n ei alw yn ymgais i'w lofruddio yn Florida.

Roedd yr ymgeisydd arlywyddol yn chwarae yn y Clwb Golff Cenedlaethol yn West Palm Beach pan gafodd sŵn gynau ei glywed.

Yn ei neges gyntaf ar ôl y digwyddiad, dywedodd Trump na fydd “byth yn ildio”.

“Rwy'n ddiogel ac yn iawn! Ni fydd unrhyw beth yn fy arafu. Wna i byth ildio," meddai.

Daw’r digwyddiad bron i ddau fis union ar ôl i ddyn saethu ato mewn rali yn Pennsylvania, gan ei adael gydag anaf i'w glust.

Prin yw'r manylion am y digwyddiad diweddaraf, ond dyma beth rydyn ni'n ei wybod hyd yma.

 

Sut wnaeth y Gwasanaeth Cudd sylweddoli fod Trump mewn perygl?

Fe wnaeth aelodau o'r Gwasanaeth Cudd saethu i gyfeiriad darpar lofrudd ar ôl gweld reiffl yn gwthio drwy'r llwyni.

Roedd yr aelod wedi bod "un twll ar y blaen" i Trump er mwyn archwilio'r ardal ar y cwrs golff.

Image
Ymosodiad trump 15 Medi
Yr FBI yn archwilio'r ardal ble'r roedd yr ymosodwr honedig

 Yna fe saethodd yr aelod o'r Gwasanaeth Cudd i gyfeiriad y darpar lofrudd ar ôl sylwi ar yr arf. 

 

Sut cafodd y person gyda'r reiffl ei ddal?

Fe wnaeth aelodau o'r Gwasanaeth Cudd saethu i gyfeiriad y person ar ôl sylwi arno yn y llwyni.

Yn dilyn hynny, fe wnaeth y person ollwng y reiffl AK-47 a ffoi mewn cerbyd, gan adael yr arf ar ei ôl, meddai Siryf Bradshaw. Roedd hefyd wedi gadael dyfais GoPro a oedd wedi bwriadu ei ddefnyddio i ffilmio'r digwyddiad, meddai'r awdurdodau.

Ychwanegodd Siryf Bradshaw fod llygad dyst wedi gweld dyn yn dianc mewn cerbyd Nissan du.

Fe gafodd y person sy'n cael ei amau o geisio cyflawni'r ymosodiad ei ddal gan yr heddlu wrth yrru tua'r gogledd ar y briffordd I-95. Roedd wedi croesi i Sir Martin yn ne Florida, tua 61km (38 milltir) o gwrs golff Trump.

 

Pwy yw'r person sy'n cael ei amau?

Mae sawl ffynhonnell wedi dweud wrth gyfryngau'r Unol Daleithiau mai Ryan Wesley Routh yw'r person sy'n cael ei amau.

Wrth siarad â gwasanaeth newyddion CNN, fe wnaeth mab Mr Routh, Oran, ei ddisgrifio fel “tad cariadus a gofalgar”.

Mae negeseuon ar gyfrif Facebook Mr Routh yn awgrymu ei fod wedi bod yn annog pobl o dramor i fynd i Wcráin i frwydro yn erbyn lluoedd Rwsia.

Image
Ryan Routh
Ryan Routh mewn protest ym mis Ebrill 2022 oedd yn galw ar arweinwyr i adael i sifiliaid adael Mariupol yn Wcráin ar ôl i Rwsia ymosod ar y wlad

Mae adroddiadau hefyd yn awgrymu ei fod wedi cyflawni sawl trosedd yn y gorffennol.

Yn ôl ffynonellau CBS, cafodd Ryan Routh ei gyhuddo a’i gael yn euog o nifer o droseddau ffeloniaeth yn Sir Guilford yng Ngogledd Carolina rhwng 2002 a 2010.

Mae’r troseddau’n cynnwys cario arf cudd, gwrthsefyll cael ei arestio gan swyddog heddlu a gyrru gyda thrwydded wedi’i dirymu.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ni chafodd Trump ei anafu yn ystod y digwyddiad ac mae'r FBI bellach yn ymchwilio'r ardal ble'r oedd yr ymosodwr.

Mewn cynhadledd newyddion, dywedodd Jeffrey Veltri o FBI Miami fod y swyddfa yn arwain yr ymchwiliadau.

Ychwanegodd fod y Gwasanaeth Cudd, swyddfa Siryf Palm Beach a swyddfa Siryf Sir Martin hefyd yn cynorthwyo'r ymchwiliadau.

 
 
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.