Newyddion S4C

Y gymuned ryngwladol wedi troi cefn ar Gaza medd y Cenhedloedd Unedig

Pecynnau bwyd yn Gaza

Mae swyddog mwyaf uchel y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod y gymuned ryngwladol yn troi cefn ar bobl ddiniwed sydd yn byw yn Gaza.

Wrth siarad gyda'r BBC mae Sigrid Kaag, sydd yn gyfrifol am oruchwylio'r cymorth dyngarol yn yr ardal, yn dweud bod y sefyllfa yn "drychineb o bwys".

Mae disgwyl iddi gyflwyno adroddiad i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ddydd Llun. Mae'r cynnwys meddai yn un "digalon iawn ac efallai yn dywyll".

"Dydyn ni ddim yn cwrdd â'r gofynion, heb sôn am greu disgwyliadau a gobaith i sifiliaid yn Gaza," meddai.

Mae'n dweud bod yna system yn ei le erbyn hyn er mwyn rhoi cymorth, gan gynnwys llwybrau trwy dir a môr. Ychwanegodd bod gweithwyr y Cenhedloedd Unedig yn gweithio yn ddiflino ac yn "peryglu eu bywydau o ddydd i ddydd". 

Tan fod yna gadoediad a bod gwystlon Israelaidd yn cael eu rhyddhau "does dim llawer arall allith gael ei wella" meddai.

Mae Israel wastad wedi honni bod digon o gymorth dyngarol yn cyrraedd Gaza ac yn gwadu bod yna lwgu ar raddfa eang.

Yn ôl Ms Kaag, mae'r astudiaethau maen nhw wedi eu gwneud yn dangos bod yna "ansicrwydd bwyd" ar gyfer mwyafrif y boblogaeth.

Mae hefyd yn dweud ei bod hi'n "anodd iddi gadarnhau" cyhuddiadau Israel bod Hamas yn arallgyfeirio'r cymorth dyngarol.

Mae bron i 300 o weithwyr dyngarol y Cenhedloedd Unedig wedi marw hyd yn hyn yn ystod rhyfel Gaza. 
 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.