Newyddion S4C

Saith o bobl wedi marw yn dilyn llifogydd ar draws Ewrop

15/09/2024
Llifogydd yng Ngwlad Pwyl

Mae saith o bobl wedi marw mewn gwledydd yng nghanolbarth a dwyrain Ewrop yn dilyn llifogydd o ganlyniad i Storm Boris.

Mae diffoddwr tân wedi marw wrth iddo geisio achub eraill mewn llifogydd yn Awstria ac mae pobl wedi boddi yng Ngwlad Pwyl a Romania.

Mae adroddiadau fod nifer o bobl ar goll yn y Weriniaeth Tsiec

Mae degau o filoedd o bobl heb bŵer ac mae llawer o bobl wedi gorfod symud i dir uwch o ardaloedd a gafodd eu taro'n wael.

Mae talaith Fienna yn Awstria wedi'i datgan cyflwr o argyfwng, gyda'i harweinwyr yn siarad am "sefyllfa eithafol ddigynsail".

Mae prif weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk, wedi gorchymyn gweinidog cyllid y wlad i "baratoi arian ar gyfer cymorth brys a chael gwared ar ddifrod llifogydd".

Dywedodd Mr Tusk ei fod wedi gofyn i weinidog amddiffyn y wlad i anfon lluoedd ychwanegol i'r "ardaloedd dan fygythiad".

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.