Cyflwynydd The Repair Shop wedi ymddiswyddo o sefydliad y Brenin
Mae cyflwynydd y BBC Jay Blades wedi ymddiswyddo o Sefydliad y Brenin ar ôl iddo gael ei gyhuddo o droseddau yn erbyn ei wraig.
Fe ymddangosodd Mr Blades, sydd yn wyneb adnabyddus i wylwyr rhaglen The Repair Shop, o flaen Llys Ynadon Kidderminster ddydd Gwener wedi iddo gael ei gyhuddo o un achos o reolaeth drwy orfodaeth yn erbyn perthynas agos neu aelod o’r teulu.
Mae’r cyhuddiad yn ymwneud â’i wraig, Liza Zbozen, medd dogfennau’r llys.
Y llynedd enillodd cyflwynydd The Repair Shop, 54, wobr deledu Bafta am raglen arbennig a oedd yn cynnwys y Brenin, a oedd ar y pryd yn Dywysog Cymru.
Roedd Mr Blades wedi cefnogi Sefydliad y Brenin, Sefydliad y Tywysog gynt, fel llysgennad, ac wedi ymweld â lleoliad Dumfries House ar gyfer rhaglen arbennig y BBC The Repair Shop: A Royal Visit.
Fe gadarnhaodd y sefydliad addysgol ddydd Sul fod Mr Blades wedi hysbysu'r elusen am ei ymddiswyddiad.