Newyddion S4C

Dau ddyn o Abertawe wedi eu cyhuddo ar ôl dod o hyd i gocên ar gwch

15/09/2024
Cocên ar gwch yng Nghernyw

Mae dau ddyn o Abertawe ymhlith pedwar sydd wedi’u cyhuddo o droseddau cyffuriau ar ôl iddyn nhw gael eu harestio mewn cwch pysgota oddi ar arfordir Newquay yng Nghernyw.

Fe wnaeth swyddogion Llu’r Ffiniau gipio’r llong, a oedd wedi bod yn cario tua thunnell o gocên ddydd Gwener, yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Cafodd y dynion - Jon Paul Williams, 46, o St Thomas, Abertawe; Patrick Godfrey, 30, o Port Tennant, Abertawe; Michael Kelly, 45, o Fanceinion; a Jake Marchant, 26, heb gyfeiriad sefydlog - eu cyhuddo o fewnforio cyffur rheoledig dosbarth A meddai swyddogion.

Maen nhw wedi cael eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw nhw ymddangos gerbron Llys Ynadon Bodmin ddydd Llun.

Llun: Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.