Newyddion S4C

Capsiwl SpaceX yn dychwelyd i’r Ddaear oddi ar arfordir Florida

15/09/2024
Criw SpaceX Polaris Dawn

Mae criw roced SpaceX wedi dychwelyd i’r Ddaear ar ôl pum diwrnod mewn orbit, yn dilyn taith ofod hanesyddol oedd wedi cynnwys taith tu allan i’r llong ofod – yr un masnachol cyntaf y byd.

Fe wnaeth y capsiwl lanio yn y môr oddi ar arfordir Florida fore dydd Sul.

Dywedodd asiantaeth ofod America, Nasa fod yr alldaith yn cynrychioli “cam enfawr ymlaen” i’r diwydiant gofod masnachol.

Fe deithiodd y tîm sifil o bedwar aelod, oedd yn cael eu hariannu a'u harwain gan y biliwnydd Jared Isaacman, ymhellach i'r gofod nag unrhyw fodau dynol am fwy na 50 mlynedd.

Roedd Scott Poteet, cyn-beilot llu awyr America, a gweithwyr SpaceX Sarah Gillis ac Anna Menon hefyd ar y criw.

Mr Isaacman a Ms Gillis yw'r criw di-broffesiynol cyntaf i deithio tu allan i long ofod.

Llun: X/SpaceX

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.