Newyddion S4C

Wyth o bobl wedi marw ar ôl ymgais i groesi'r Sianel

15/09/2024
Cwch mudwyr wedi chwalu

Mae wyth o bobl wedi marw dros nos wrth geisio croesi’r Sianel o Ffrainc i Loegr, yn ôl yr awdurdodau yn Ffrainc.

Dywedodd yr awdurdodau yno fod 53 o fudwyr ar fwrdd cwch a aeth i drafferthion oddi ar arfordir Ambleteuse yn rhanbarth Pas-de-Calais yng ngogledd y wlad.

Fe gludwyd chwech o bobl i’r ysbyty gan gynnwys babi 10 mis oed oedd yn dioddef o  hypothermia.

Dywedodd swyddog fod goroeswyr y digwyddiad yn dod o Eritrea, Swdan, Syria, Affganistan, yr Aifft ac Iran.

Dywedodd awdurdodau morwrol Ffrainc ddydd Sadwrn bod 200 o bobl wedi eu hachub mewn cyfnod o 24 awr dros ddydd Gwener a dydd Sadwrn.

Daw’r digwyddiad fwy nag wythnos ar ôl i 12 o bobl, gan gynnwys chwech o blant a dynes feichiog, farw pan suddodd cwch oedd yn cludo dwsinau o ymfudwyr oddi ar arfordir Ffrainc.

Y digwyddiad ar 3 Medi oedd y marwolaethau mwyaf marwol yn y Sianel eleni.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.