Teithwyr yn wynebu oedi hir yn dilyn digwyddiad ger gorsaf drên
14/09/2024
Roedd rhybudd am oedi sylweddol i deithwyr ar wasanaethau trên yn ardal Rhondda Cynon Taf yn dilyn adroddiadau o ddigwyddiad ger gorsaf drên Aberpennar ddydd Sadwrn.
Roedd gwybodaeth ar wefan Trafnidiaeth Cymru yn nodi bod ‘oedi mawr’ ar wasanaethau rhwng Merthyr Tudful â Chaerdydd am rai oriau yn ystod y dydd.
Yn ôl adroddiadau roedd presenoldeb amlwg heddlu yn agos i orsaf drenau Aberpennar yn dilyn digwyddiad posib.
Roedd hofrennydd hefyd yn bresennol yn ôl adroddiadau.