Cau ffyrdd yng nghanol Abertawe ar gyfer ras
Mae nifer o ffyrdd wedi bod ynghau yng nghanol Abertawe fore dydd Sul ar gyfer ras 10 cilomedr y ddinas.
Roedd rhai o’r strydoedd ar gau o 05:30 ymlaen am rai oriau yn ystod y bore er mwyn diogelwch y rhai sy’n cymryd rhan gyda rhai wedi aros ynghau tan 16:00.
Roedd disgwyl i 5,000 o redwyr gymryd rhan yn y rasio eleni oedd yn cychwyn a gorffen ger maes Sain Helen.
Roedd nifer o rasys yn cael eu cynnal o 09:00 ymlaen gyda’r brif ras wedi cychwyn am 11:00 y bore.
Roedd y rhedwyr wedi teithio ar hyd Bae Abertawe ar hyd Heol y Mwmbwls cyn troi nôl ar hyd y promenâd tuag at y ddinas.
Roedd trefnwyr wedi rhybuddio teithwyr i wirio am ba ffyrdd fydd ynghau yn ystod y dydd.
Mae manylion am y ffyrdd ar gau ar gael yma.
Llun: Bae Abertawe 10k