Newyddion S4C

Cadarnhad mai Casnewydd fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2027

13/09/2024

Cadarnhad mai Casnewydd fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2027

"Mae Mr Urdd yn dod i Gasnewydd mewn tair blynedd."

Sut dach chi'n teimlo am hynna?

"Rili cyffrous. Cyffrous iawn."

Yn Ysgol Bro Teyrnon, mae 'na gynnwrf.

"Mae'r bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg yn gallu dod i'r Eisteddfod a gweld bod mae Cymraeg yn rili bwysig hefyd."

Tra bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymweld dair gwaith dydy prifwyl yr Urdd erioed wedi bod.

Cyngor Casnewydd sydd wedi rhoi'r gwahoddiad fel rhan o'u hymdrechion i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y ddinas.

Bellach mae 'na bedair ysgol gynradd cyfrwng Gymraeg ac un ysgol uwchradd ac mae 'na le i gredu mai teuluoedd o leiafrifoedd ethnig sy'n bennaf yn gyrru'r twf
mewn addysg Gymraeg yn yr ardal.

"Mae 'na gymuned amlieithog yng Nghasnewydd.

"Pobl o gefndiroedd ethnig ac o dramor sydd wedi symud yma.

"Efallai bod nhw bach fwy agored i ddysgu iaith yn hytrach na bod nhw jyst yn meddwl mai dim ond Saesneg sydd angen siarad."

Draw yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ydyn nhw wedi gweld newid yn agweddau tuag at yr iaith?

"Yn go iawn, ydy, oherwydd gyda fwy o ysgolion nawr mae fwy o angen i'r iaith."

"Mae'n amlwg i fi bod pethau nawr yn troi, yn dechrau newid.

"Ni'n falch iawn i gael y cyfle i groesawu Eisteddfod yr Urdd.

"Ie, fel oedd e'n dweud, mae e'n gyfle i ni gallu siarad Cymraeg a pethau tu fas o'r ysgol hefyd oherwydd mae rhieni fi ddim yn siarad Cymraeg.

"So fi ddim yn gallu siarad Cymraeg gartref."

"Pan ydyn ni'n meddwl am Gasnewydd dwi ddim yn gwybod bod o'n ddinas amlddiwylliannol iawn.

"Mae e'n hyfryd gallu gweld y datblygiad yma.

"Dw i'n credu bydd hynny yn rhywbeth bydd yn denu mewn lot o bobl o Gasnewydd."

Mae'r Urdd wedi croesawu ymdrechion Cyngor Casnewydd gyda cyfarfod cyhoeddus heno i drafod y camau nesaf.

"'Dan ni'n wyl ieuenctid.

"'Dan ni'n cael ein arwain gan y bobl ifanc.

"'Dan ni'n dibynnu arnyn nhw i wneud penderfyniadau i sicrhau bod yr wyl yn gynhwysol, yn berthnasol.

"Bod nhw'n teimlo perchnogaeth drosti hefyd felly lleisiau y bobl ifanc yw'r rhai uchaf i'w clywed yn Eisteddfod yr Urdd.

"Mae'r Pwyllgor Ieuenctid yn llywio'r penderfyniadau.

"Nhw sydd in charge."

Gwthio'r ffiniau fydd y nod ar ymweliad cyntaf Eisteddfod yr Urdd i Gasnewydd a chynnes fydd y croeso.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.