Prifysgol Bangor i 'adolygu ei phortffolio buddsoddi' yn dilyn protestiadau
Prifysgol Bangor i 'adolygu ei phortffolio buddsoddi' yn dilyn protestiadau
"Free Palestine!"
Ers misoedd mae lleisiau'r protestwyr a myfyrwyr hyn wedi bod yn glir fel cloch.
Ddydd a nos ers mis Mai, mae'r wersyllfa yma ar dir Prifysgol Bangor wedi ei feddiannu gan brotestwyr sy'n galw am ddiwedd i'r trais
yn y Dwyrain Canol ac ar y Brifysgol i ail ystyried rhai o'r cwmniau maen nhw'n delio efo.
Y myfyrwyr ac aelodau'r gymuned yn galw am newid.
"Dw i'n gobeithio bod y ffaith bod pobl wedi codi llais ac wedi dangos cefnogaeth yn galluogi'r Brifysgol i wneud y peth iawn.
"Dan yr amodau sy'n wynebu prifysgolion rŵan does neb isio gweld difenwi enw da Prifysgol Bangor.
"Os ydyn nhw'n buddsoddi ac yn hyrwyddo hiladdiad drwy'r buddsoddiadau, fel pob corff arall sy'n gwneud yr un peth mae isio nhw ddadfuddsoddi ac arwain y ffordd."
"Dylse sefydliad addysg fel hyn ddim buddsoddi mewn y math bethau.
"Dw i'n cefnogi be maen nhw'n gwneud a dangos cydsafiad efo nhw.
"Maen nhw 'di bod yma am dros tri mis, ym mhob tywydd.
"Maen nhw 'di dangos gymaint o ddewrder a dyfalbarhad.
"Maen nhw'n haeddu cefnogaeth ar eu safiad nhw."
Mae'r brotest yma ym Mangor yn un o nifer dros y misoedd diwethaf mewn sefydliadau tebyg ar draws Prydain a gweddill y byd.
A'r protestwyr yn honni nad yw Prifysgol Bangor wedi gweithredu'n ddigonol i ateb eu pryderon.
"The main thing I want to see is more accountability and transparency from the Executive Board to make sure a situation like this doesn't happen again.
"I don't want to continue to see the University palm off the blame of any wrong doing on to its investment manager and refuse to take accountability for itself."
"It's really positive they're adding human rights abuses on to their Ethical Investment Policy.
"They are listening to us. We've had people asking 'what's going on?'
"We've been able to educate so many people."
Mae 'di bod yn haf o densiwn rhwng y Brifysgol a'r myfyrwyr hyn.
Daeth hynny benllanw ym mis Gorffennaf mewn fideo.
'Dan ni methu ei ddangos oherwydd rhesymau cyfreithiol.
Mae un o'r protestwyr yn mynd ar lwyfan yn ystod seremoni graddio yn galw 'hiladdiad'.
Mae'r Heddlu wedi cadarnhau i ddynes gael ei harestio yn dilyn y digwyddiad ac wedi ei rhyddhau ar fechniaeth.
Gofynnom am gyfweliad gyda'r Brifysgol.
Gwrthodon nhw'r cais a'n cyfeirio at ddatganiad ar eu gwefan.
Yn y datganiad, dywedodd yr Is-Ganghellor Yr Athro Edmund Burke, fod y Brifysgol yn condemnio hiliaeth gwrth-semitiaeth, Islamaffobia gwahaniaethu ac aflonyddu.
Mae'r datganiad yn mynd yn ei flaen i ddweud bod nifer o staff a myfyrwyr wedi cysylltu a'r Brifysgol gan ddweud bod rhai o'r negeseuon sydd i weld yn y wersyllfa yn peri gofid a'u bod yn cymryd y cwynion hynny o ddifri.
Mae gennym bolisi buddsoddi cynaliadwy a moesol ac rydym yn monitro ein cysylltiadau yn ymwneud ag arfau, alcohol, gamblo a chwmniau sy'n
dibynnu ar danwyddau ffosil.
Maen nhw'n mynd 'mlaen i ddweud eu bod ar y cyd a'u myfyrwyr wedi cwrdd a chytuno i adolygu'r polisi buddsoddi.
Some would say doesn't that go far enough?
"No, it goes far enough to rid the investments.
"We just want to make Bangor University its best."
Mae rhai yn y gymuned a'r Brifysgol wedi dweud bod presenoldeb y myfyrwyr yma yn codi ofn ar rai o'r myfyrwyr a staff eraill.
Allwch chi ddeall y safbwynt yna?
"Na, fedra i ddim.
"Dw i wedi bod yma reit aml a heb weld yr un peth fedar gael unrhyw fath o ofn.
"Yr unig beth dw i wedi gweld ydy cefnogaeth o'r gymuned yn dod a bwyd, diod a phebyll ac yn danogs gofal."
Mynnu mae'r Brifysgol eu bod yn ceisio sicrhau lles yr holl gymuned, gan ddweud y byddan nhw'n parhau i gydweithio gan gynnal deialog adeiladol gyda'r myfyrwyr.