Rhybudd i helwyr ysbrydion i beidio â mynd i safle hen ysbyty ym Mhowys
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio helwyr ysbrydion i beidio â mynd i safle hen ysbyty yn ne Powys.
Dywedodd yr heddlu na ddylai aelodau o'r cyhoedd sy'n hoffi hela ysbrydion fynd i hen safle Ysbyty Canolbarth Cymru yn Nhalgarth gan ei fod yn "beryglus".
"Mae'r lleoliad yn peri risg difrifol i'ch iechyd a diogelwch," meddai llefarydd ar ran y llu.
"Nid yw'n ddiogel i fynd i mewn yno oherwydd cyflwr gwael yr adeilad a risg o asbestos.
"Rydym yn eich annog yn gryf i beidio ag ymweld â’r safle hwn gan ei fod yn eiddo preifat a gallwch gyflawni trosedd dresmasu."
Ychwanegodd yr heddlu bod yr ardal yn cael ei monitro'n agos gan batrolau diogelwch.
Roedd Ysbyty Canolbarth Cymru yn ysbyty seiciatrig.
Fe wnaeth gau ei ddrysau am y tro olaf yn 1999.