Streic gan gorws Opera Cenedlaethol Cymru i fynd yn ei blaen
Bydd streic gan gorws Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd yn ei blaen ar ôl i drafodaethau fethu â datrys anghydfod dros swyddi.
Dywedodd undeb Equity y bydd eu haelodau'n streicio ar 21 Medi ar ôl methu a gwneud cynnydd digonol i ddatrys yr anghydfod yn ystod trafodaethau gyda rheolwyr ddydd Gwener.
Dywedodd yr undeb y bydd y streic yn effeithio ar noson agoriadol opera Rigoletto ar 21 Medi.
Mae Equity yn galw am drafodaethau brys gyda'r rheolwyr i ddod o hyd i ddewis arall ymarferol, gan obeithio y bydd hynny'n atal y streic.
'Haeddu mwy o barch'
Dywedodd Simon Curtis, swyddog cenedlaethol Equity dros Gymru: "Fe wnaeth y cyfarfod heddiw gyda rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru arwain at rhywfaint o gynnydd ond yn y pen draw roedd yn siomedig.
"Nid oedd llawer o ymgysylltu â phryderon gwirioneddol aelodau’r corws ynghylch bywoliaethau a lefel annerbyniol o golli swyddi."
Ychwanegodd: “Rydym wedi gwthio am gynigion newydd ac yn parhau i fod yn agored ar gyfer trafodaethau, ac rydym yn dymuno ymgysylltu mewn ffordd adeiladol i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy’n diogelu swyddi a chyflogau o fewn y corws.
“Mae’r cantorion proffesiynol hyn yn haeddu mwy o barch nag a ddangoswyd hyd yma.
"Gofynnwn eto i reolwyr fantoli eu cyllideb mewn ffordd sy’n diogelu’r corws o safon fyd-eang y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gywir yn ei ddisgrifio fel rhan o’i asgwrn cefn artistig.”
Dywedodd Equity fod rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru yn dal i gynnig torri maint a chyflogau'r corws.
Mae'r bygythiad o ddiswyddiadau gorfodol hefyd yn parhau, meddai.