‘Tawelwch meddwl’: Y rhieni sy’n defnyddio technoleg i'w helpu i gadw llygad ar eu plant
Yn y Sioe Frenhinol eleni, roedd Gwawr Evans yn gwybod yn union lle’r oedd ei phlant bob amser.
Gyda dros 250,000 o bobl yn ymweld â’r digwyddiad bob blwyddyn, roedd y fam i bedwar o Geredigion wedi penderfynu troi at dechnoleg i’w helpu i gadw ei phlant ifanc, sydd i gyd o dan saith oed, yn ddiogel yn Llanelwedd.
Boed hi ar y maes carafanau neu'n cerdded o amgylch y stondinau, roedd Gwawr yn gallu mynd ar ei ffôn symudol a gweld yn union lle'r oedd ei phlant gan eu bod nhw’n cario AirTags – rhywbeth a ddaeth yn ddefnyddiol pan aeth ei mab ar goll yng nghanol y bwrlwm.
“Pan golles i un o’r plant yn y sioe, doedd e ddim am gyfnod hir ond es i syth ar y ffôn a gwasgu find ac oedd e fel Google Maps bach – pan o’n i’n cerdded, o’n i’n gweld bo’ fi’n mynd yn agosach iddo fe bob tro,” meddai. “Roedd e’n dawelwch meddwl.”
Mae Gwawr yn un o nifer o rieni sy’n defnyddio AirTags i gadw llygad ar ei phlant sy’n ddigon hen i grwydro i ffwrdd ond yn rhy ifanc i gael ffôn symudol.
Fe gafodd AirTags eu cyflwyno gan Apple ym mis Ebrill 2021 er mwyn lleoli eiddo. Gan fod y teclynnau'r un maint â darn 50 ceiniog, maen nhw'n ddigon ysgafn i'w rhoi ar bob math o eitemau, gan gynnwys goriadau a bagiau.
Er bod Apple wedi dweud na ddylai AirTags gael eu defnyddio i dracio pobl, mae nifer o rieni yn defnyddio’r teclynnau £30 i gadw llygad ar eu plant.
Mae gan y rhwydwaith FindMy gan Apple, sy’n cael ei ddefnyddio gan AirTags, bellach dros 1.8 miliwn o ddefnyddwyr ar draws y byd.
Mesur rhagofalus
Trefnu gwyliau i Disneyland Paris blwyddyn a hanner yn ôl wnaeth ysgogi Gwawr i brynu AirTags ar gyfer ei phlant ifanc.
Trwy gydol y gwyliau, roedd pob un ohonyn nhw’n gwisgo AirTag ar eu garddwrn fel petai’n oriawr, er mwyn sicrhau bod eu lleoliad yn hysbys.
Os byddai un o’r plant yn crwydro'n rhy bell, byddai Gwawr yn derbyn neges ar yr ap FindMy ar ei ffôn yn dweud pwy oedd wedi ei gadael a lle roedden nhw.
“Yn amlwg ni ddyle AirTags gael eu defnyddio yn lle ddim byd – mae dal angen bod yn wyliadwrus – ond maen nhw’n ddefnyddiol fel back up,” meddai Gwawr.
“Ma’ fe’n ffordd ychwanegol o ofalu am eich plentyn a gwneud yn siŵr bo’ chi’n gwybod lle maen nhw os yw rhywbeth yn digwydd.”
Mae AirTags yn gweithio drwy ddefnyddio Bluetooth i gysylltu â dyfeisiau Apple eraill ar yr ap FindMy. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i'r AirTags fod o fewn 30 troedfedd i iPhone neu ddyfais arall yn y rhwydwaith er mwyn gallu anfon eu lleoliad yno.
"Yn Disneyland oedd e mor brysur yna oedd y signal ddim bob tro’n grêt, ond yn y sioe oedd e’n wych," meddai.
Er nad yw Gwawr yn defnyddio'r teclynnau'n ddyddiol, mae hi'n credu y dylai ei phlant ddeall beth yw eu pwrpas.
"Fi’n dweud wrth plant fi beth yw pwrpas nhw a pam maen nhw arnyn nhw, a bod nhw’n gwybod bod nhw’n cael eu tracio," meddai.
Yn ogystal ag AirTags, mae nifer o rieni sydd â phlant hyn wedi troi at apiau fel Life360, sydd ar gael ar ffonau symudol.
Fe gafodd Life360 ei greu yn 2007 mewn ymateb i Gorwynt Katrina, a wnaeth adael nifer o bobl ar Arfordir y Gwllf yr Unol Daleithiau yn methu â lleoli ei gilydd.
Yn wahanol i AirTags, mae Life360 wedi ei greu’n benodol ar gyfer cysylltu teulu a ffrindiau, ac mae’n defnyddio GPS i dracio eu lleoliad.
Mae Sara o Ynys Môn yn gwybod yn union pryd mae ei meibion, sydd yn eu harddegau, yn gadael yr ysgol ar ddiwedd y dydd – mae'r ap yn rhoi gwybod iddi.
“Oedd fi a’r gŵr isio nhw fod yn fwy annibynnol,” meddai Sara, sy'n dymuno i ni beidio datgelu ei chyfenw. “Ond oeddan ni hefyd isio gwybod lle oeddan nhw.”
Mae Sara hefyd wedi rhoi ei cherdyn banc ar gyfrif y teulu, sy’n golygu ei bod yn cael gwybod pan fydd un o’i meibion yn ei ddefnyddio – fel arfer i brynu cinio.
“Odd yr hynaf ‘chydig bach yn od am y peth i ddechrau efo’i, ond mewn gwirionedd dwi’m yn meddwl bod o’n poeni llawer am y peth erbyn hyn,” meddai. “Ac mae’r fengaf yn eitha’ licio fo, roedd o’n deud 'sa fo’n licio i Nain gael un hefyd.”
Fel nifer o rieni, nid oedd Sara a’i gŵr eisiau i’r tracio weithredu mewn un ffordd. Felly, gall eu meibion weld eu lleoliad nhw hefyd.
“Natho ni gytuno os da ni’n tracio nhw, maen nhw’n tracio ni hefyd – dim just un ffordd,” meddai. "Fel arall, dw i'n teimlo bod o’n gosod nhw ar lefel wahanol."
Ychwanegodd Sara nad yw hi’n mynd ar yr ap yn aml. Erbyn hyn, mae hi’n ei ystyried fel rhywbeth sy’n hwyluso bywyd o ddydd i ddydd.
“Mae’r ddau wedi dechrau mynd ar y bws lleol i weithgaredd ar ôl ysgol,” meddai. “Felly mae’n ofnadwy o ddefnyddiol os 'da ni angen codi nhw o’r bws.”
Ond mae hi’n cydnabod bod rhai anfanteision i ddefnyddio Life360; gall yr ap ond rhannu lleoliad defnyddwyr pan mae eu ffonau symudol ymlaen, gan ei fod yn dibynnu ar signalau lloeren GPS. Felly, os yw'r ffôn yn cael ei ddiffodd, ni fydd modd gweld eu lleoliad.
Mae hi hefyd yn cydnabod y daw'r diwrnod pan na fydd ei meibion eisiau cael eu tracio mwyach.
"Bydd rhaid cael y drafodaeth honno pan ddaw’r amser," meddai.
Arferiad newydd, neu colli annibyniaeth?
Mae rhai arbenigwyr wedi bod yn poeni ers tro am effaith teclynnau tracio ar iechyd meddwl a datblygiad plant.
“Yn ddelfrydol, byddai plant yn cydsynio i gael teclyn tracio a byddai’r caniatâd hwn yn cael ei roi ar ôl cael trafodaeth lawn am y manteision a’r anfanteision,” meddai Dr Angharad Rudkin, seicolegydd clinigol sy’n arbenigo mewn datblygiad plant.
“Ond y rhan fwyaf o’r amser, nid yw’r sgyrsiau hyn yn digwydd, ac felly nid yw plant yn ymwybodol o’r opsiwn i roi caniatâd ai peidio.”
Er nad yw Dr Rudkin yn erbyn defnyddio teclynnau tracio, mae hi’n rhybuddio y gall gor-ddefnyddio'r dechnoleg greu “teimlad ffug o ddiogelwch”.
“Yn hytrach na dysgu bod yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i’w rhieni lle maen nhw, gweithio allan sut i gyrraedd yn ôl adref a chymryd cyfrifoldeb am gadw amser, gall plant – a’u rhieni – ddod yn orddibynnol ar dechnoleg i wneud hyn drostyn nhw,” meddai.
“Yna mae'n anodd i blant ddatblygu i fod yn oedolion annibynnol sydd ddim yn cael eu tracio.”
Gyda straeon dychrynllyd yn hawlio’r penawdau'n ddyddiol, mae nifer o rieni yn teimlo’n bryderus am ddiogelwch eu plant. Neges Dr Rudkin i'r rhai sy’n poeni am hynny yw i geisio “meddwl yn rhesymol”.
“Beth yw’r tebygolrwydd y bydd rhywbeth trychinebus yn digwydd – a beth fyddai’n digwydd pe bai rhywbeth yn mynd o’i le?” meddai.
“Yn hytrach na dibynnu ar dechnoleg, siaradwch gyda’ch plant am ffyrdd o gadw eu hunain yn ddiogel, beth i’w wneud os ydyn nhw’n mynd ar goll, a strategaethau ar gyfer delio â sefyllfaoedd anrhagweladwy.”
Ychwanegodd: “Nid yn unig y mae hyn yn eu sefydlu ar gyfer y presennol, mae’n golygu eu bod nhw hefyd yn fwy tebygol o dyfu i fyny i fod yn oedolion ifanc nad ydyn nhw’n cael eu llethu gan y siawns y bydd pethau drwg yn digwydd iddyn nhw ar hap – oedolion ifanc sy’n teimlo fel bod ganddyn nhw reolaeth.”