Newyddion S4C

Coroni pencampwr seiclo Cymru ar ôl iddo oroesi math prin o ganser

Newyddion S4C 13/09/2024

Coroni pencampwr seiclo Cymru ar ôl iddo oroesi math prin o ganser

Deunaw mis ers iddo oroesi math prin o ganser, mae dyn ifanc o Wynedd wedi disgrifio'r profiad o gael ei goroni'n bencampwr seiclo Cymru fel un 'hollol amazing'

Bu'n rhaid i Sam Woodward sy'n 19 oed ag o Waunfawr ger Caernarfon ddysgu sut i gerdded eto ar ôl cael llawdriniaeth sylweddol ar ei goes yn 2023.

Ond gyda chefnogaeth ei glwb seiclo, mae o rŵan yn gobeithio hel digon o noddwyr i droi'n broffesiynol. 

Fe ddaeth Sam i’r brig mewn cystadleuaeth ym mis Medi eleni yn Llandrindod gan ei goroni’n bencampwr Cymru.

Fe ddechreuodd seiclo ar hyd lonydd ei fro ar ôl ymuno â chlwb Beicio Egni Eryri rhai blynyddoedd yn ôl. 

“Nes i orffen job fi fel saer coed i concentratio mwy ar seiclo ac ers hynna dwi di cael lle ar Tim PB performance a rili wedi gallu ffocusio ar seiclo lot mwy," meddai.

“Ma di galluogi i mi rasio lot mwy a rhoi lot o sianws da imi ddangos fy hun”. 

Wrth ddod i’r linell derfyn fe lwyddodd i arwain y grŵp o dros 500 metr gan groesi yn gyntaf. 

“Oedd o’n amazing... dwi di bod yn dreamio am hwnna ers blwyddyn rŵan, dros gaeaf," meddai.

“Dwi jest yn lyfio rasio, reidio beic fi... y rhyddid ohono a da chi rili gorfod bod reit cryf i fynd allan bob dydd am rhyw 2 neu 5 awr yn y gaeaf."

Image
Sam Woodward
Sam Woodward

'Amazing'

Fe ddaeth llwyddiant Sam 18 mis yn unig ar ôl derbyn llawdriniaeth am ganser leiomyosarcoma a wnaeth dyfu ar ei goes. 

“Nath hynna roi fi allan am ychydig o fisoedd ond ar ôl 2 operation nes i hefyd gal sepsis ar ôl hynna ac oedd hynna yn awful," meddai.

Wedi llawdriniaethau a ffisiotherapi fe ddechreuodd fynd nôl ar ei feic, ond roedd hynny yn brofiad anodd, meddai. 

“Oedd o rili tough. Gorfod dysgu sut i gerdded eto a wedyn reidio beic am hwyl”. 

Wrth gryfhau fe dderbyniodd gefnogaeth gan ei glwb lleol yn Eryri sydd hefyd wedi profi llwyddiant arall eleni wrth i un o aelodau eraill y clwb, Gareth McGuiness, gael ei goroni’n bencampwr byd yn y UCI Gran Fondo yn Denmarc, gan drechu 250 o gystadleuwyr eraill.

Yn ôl un o’r selogion Alun Williams mae’r tîm yn falch iawn o lwyddiant y ddau. 

“Mae beth mae Sam wedi neud eleni ‘di bod yn dda iawn ar ôl bod efo’i salwch.

“Ti gorfod tynnu dy gap iddo bod o wedi bod mor llwyddiannus."

Ategu hynny wnaeth Osian Evans, 24 oed, sydd hefyd yn seiclo gyda’r clwb. 

“Ma’n amazing, mae jest yn neis i bobl cael gweld pa mor galed mae pobl yn gweithio yn y clwb a bod ni’n cael llwyddiant allan ohono."

Gyda llygad ar y dyfodol y gobaith meddai Sam ydy ceisio canfod digon o noddwyr i droi yn broffesiynol. 

“Mae gennai lot o goals at flwyddyn nesaf, jest cario malen i progressio a cario mlaen joio. 

“Dwi’n 100% committed”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.