Ymgyrchydd gwrth-hiliaeth o Gaerdydd wedi ei chyhuddo o gefnogi Hamas
13/09/2024
Bydd ymgyrchydd gwrth-hiliaeth o Gaerdydd yn sefyll ei phrawf y flwyddyn nesaf wedi ei chyhuddo o gefnogi Hamas.
Roedd Kwabena Devonish, 26 oed o Bentre-Baen, wedi gwneud y datganiad honedig yn Nhŷ William Morgan, sef canolbwynt adrannau’r Llywodraeth, yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, ar 11 Tachwedd y llynedd.
Mae Ms Devonish wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Fe ymddangosodd yn yr Old Bailey ddydd Gwener.
Bydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Bryste ar 17 Ionawr.
Mae dyddiad ar gyfer ei hachos llys wedi'i bennu ar gyfer 18 Awst y flwyddyn nesaf yn yr un llys.