Newyddion S4C

Dyn wedi marw yn yr ysbyty ar ôl bod mewn gwrthdrawiad yn Rhydymwyn

13/09/2024
Rhydymwyn

Mae dyn 33 oed wedi marw yn yr ysbyty wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad yn Rhydymwyn, Sir y Fflint, ddydd Mawrth.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i wrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi 14:00 y diwrnod hwnnw.

Roedd ffordd yr A541 ar gau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Aintree mewn ambiwlans awyr.

Bu farw yn yr ysbyty ddydd Iau.

Dywedodd Arolygydd Iwan Roberts o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd yma.

“Hoffwn ddiolch i’r rhai sydd eisoes wedi cysylltu â ni yn dilyn y gwrthdrawiad.

“Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn yr ardal cyn y gwrthdrawiad a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo'r heddlu gyda’r ymchwiliad i gysylltu dros y we neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q137160.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.