Newyddion S4C

Sir y Fflint: Dyn ag anafiadau sydd yn peryglu ei fywyd ar ôl gwrthdrawiad

11/09/2024
Ffordd yr A451

Mae dyn wedi dioddef anafiadau sydd yn peryglu ei fywyd o ganlyniad i wrthdrawiad yn Sir y Fflint.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i wrthdrawiad rhwng car a beic modur toc wedi 14:00 ddydd Mawrth.

Roedd ffordd yr A541 yn Rhydymwyn ar gau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Aintree mewn ambiwlans awyr ac yn parhau yno mewn cyflwr argyfyngus.

Dywedodd Arolygydd Iwan Roberts o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol bod y llu yn apelio am unrhyw un sydd â gwybodaeth.

"Rwyf yn apelio i unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar adeg y gwrthdrawiad sydd heb gysylltu gyda ni, i wneud hynny," meddai.

"Hoffwn apelio i unrhyw un sydd â lluniau cylch cyfyng i gysylltu cyn gynted a bo modd."

Fe allai unrhyw un sydd yn gallu helpu gyda'r ymchwiliad gysylltu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod Q137160.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.