Newyddion S4C

Gwahardd dyn o Fôn rhag cadw cŵn ar ôl i'w 'gi bach annwyl' frathu tri o bobl

13/09/2024
Fflatiau yng Nghaergybi

Mae perchennog ci o Ynys Môn wedi ei wahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd ar ôl i'w gi Loki frathu tri o bobl.

Derbyniodd Jamie Wilson, 35 oed o Gaergybi dedfryd wyth mis o garchar wedi'i ohirio am ymosodiadau'r ci yr oedd yn dal i'w drin fel "ci bach annwyl" meddai'r barnwr.

Bu'n rhaid dinistrio Loki oedd o frid tebyg i gi tarw (bulldog) Americanaidd.

Roedd Mr Wilson wedi cyfaddef ei fod yn berchennog ci peryglus oedd allan o reolaeth ac a achosodd anafiadau yng Nghaergybi rhwng Ionawr a Gorffennaf y llynedd.

Bu'n rhaid iddo dalu iawndal o £200 i bob dioddefwr a gwneud 150 awr o waith di-dâl.

Dywedodd yr erlynydd Richard Edwards fod y dioddefwyr wedi eu brathu ar eu dwylo eu breichiau a'u brest.

Yn Llys y Goron Caernarfon, oedd yn eistedd yn Llandudno dydd Gwener, dywedodd y Barnwr Timothy Petts nad oedd Mr Wilson wedi hyfforddi ei gi yn iawn.

"Eich agwedd yw bod y ci dal yn gi bach annwyl (little softie), yn hytrach nag yn un ymosodol. Mae ofn gen i nad oedd hynny'n realistig," meddai.

"Mae'r ci heb ddysgu sut i ymddwyn yn gywir oherwydd nad ydych chi wedi ei hyfforddi'n gywir."

Dywedodd cwnsler yr amddiffyniad, Rosemary Proctor fod “oedi na ellir ei gyfiawnhau” wedi bod wrth gyflwyno’r achos.

Derbyniodd Wilson y bai am yr ymosodiadau gan y ci ac roedd wedi ymddiheuro i'r dioddefwyr.

Llun: Yr ystâd yng Nghaergybi lle y digwyddodd rhai o'r ymosodiadau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.