Newyddion S4C

Cyhuddo dau ddyn o lofruddio dyn 33 oed yn Abertawe

13/09/2024
andrew main.png

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 33 oed yn Abertawe ym mis Gorffennaf. 

Mae Joseph Dix, 26, o Frome, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 27, o Gaerfaddon, wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Andrew Main, 33, o Falkirk yn yr Alban ar 17 Gorffennaf. 

Ymddangosodd Dix a Ruddock yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.

Plediodd y ddau yn ddi-euog ac fe fydd achos llys yn cael ei gynnal ym mis Ionawr 2025. 

Fe gafodd Mr Main ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar Heol y Dywysoges yn y ddinas, ond bu farw o'i anafiadau ar 14 Awst. 

Fe wnaeth Heddlu'r De lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn ddiweddarach. 

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei chwaer, Nikki Main: "Roedd teulu a ffrindiau Andrew yn ei addoli. 

"Mae ein calonnau ni wedi eu torri gan ei farwolaeth sydyn, ac rydym ni'n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu. 

"Bydd yn byw yn ein calonnau ac ein hatgofion am byth.

"Fydd yna neb fel Andrew. Fe fydd y gwagle sydd wedi cael ei adael yn ein calonnau yn parhau am byth."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.