Rosaleen Moriarty-Simmonds: Y fenyw o Gaerdydd sydd yn peintio gyda’i cheg
Mae Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE yn artist o Gyncoed, Caerdydd sydd yn peintio gyda’i cheg.
Fe gafodd Rosaleen ei geni ym 1960, heb freichiau na choesau o ganlyniad i'r cyffur thalidomide.
Mae Rosaleen yn paratoi ar gyfer ei harddangosfa gelf, sef cyfres o bortreadau o bobl enwog Cymraeg.
Mae Dame Sian Phillips a Russell T Davies ymysg yr enwogion mae hi’n peintio a bydd holl elw’r arddangosfa yn mynd i elusen.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen gelfyddydau ITV Cymru, Backstage, dywedodd Rosaleen: “Dechreuais beintio yn yr ysgol - mi oeddwn i yn mwynhau gymaint, llawer mwy na mathemateg neu unrhywbeth arall.
“Roedd un o fy ffrindiau yn aelod o’r Mouth and Foot Painting Artists’ Association."
Ei ffrind wnaeth annog Rosaleen i lunio portffolio ac i barhau i beintio.
“Nes i feddwl na fydd dim yn dod o hyn ond naeth e. Mae 'na tua 800 ohonom ni ar draws y byd, 28 yn y Deyrnas Unedig, ond fi yw’r unig un yng Nghymru.”
Yn aml, efallai y bydd pobl yn dod ar draws gwaith Rosaleen heb fod yn ymwybodol o’r dull a ddefnyddiwyd i gwblhau’r llun.
Dywedodd Rosaleen: “Rydw i wir yn cael bwrlwm pan mae pobl yn edrych ar ddarn o fy ngwaith celf a dydyn nhw ddim yn gwybod fy mod i wedi ei beintio â’r geg.
“Ond, hefyd, mae pobl yn syfrdanu dros sut mae llun yn cael ei beintio.”
Mae Rosaleen wedi ymgyrchu dros hawliau anabledd o ganlyniad i’r cyffur thalidomide ers yn ifanc.
Mae hi’n teimlo bod ei hafiechyd wedi ysbrydoli ei gwaith “oherwydd os yw rhywbeth yn heriol, yna rydych chi’n meddwl ‘wel, dydw i ddim yn mynd i adael iddo guro fi’.”
Mae Rosaleen yn teimlo bod angen mwy o ymwybyddiaeth am yr afiechyd a achoswyd gan y feddyginiaeth.
Dywedodd: “Dydw i ddim eisiau stopio, rydw i eisiau dal ati. Byddai’n braf cael, wn i ddim, efallai gwesty i ddweud ‘Hoffwn arddangos peth o’ch gwaith’.”
Bydd yr arddangosfa yn digwydd rhwng 10 a 13 Ionawr yn Oriel Celfyddyd Gain Clarendon yng Nghaerdydd, gyda’r elw yn mynd i elusen NSPCC Cymru.