Cyhuddo dau ddyn o ddwyn gwaith celf enwog Banksy
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o fyrgleriaeth ar ôl i waith celf yr artist stryd, Banksy gael ei ddwyn o oriel yn Llundain.
Dywedodd Heddlu'r Met bod Larry Fraser, 47 oed a James Love, 53 oed wedi eu cyhuddo o'r drosedd.
Fe wnaeth y llu lansio ymchwiliad nos Sul ar ôl i'r darn o gelf 'Girl with Balloon' gael ei ddwyn o galeri ar Stryd New Cavendish yng ngorllewin Llundain tua 23:00.
Fe wnaeth y ddau ddyn ymddangos yn Llys yr Ynadon Wimbledon ddydd Iau.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe fydd disgwyl iddynt ymddangos yn Llys y Goron Kingston ar 9 Hydref.
Roedd y gwaith celf wedi hawlio'r penawdau yn 2018 pan gafodd ei hunan-ddinistrio’n rhannol ar ddiwedd arwerthiant lle cafodd ei werthu am £1.1 miliwn.
Roedd y cynfas yn cael ei basio trwy beiriant rhwygo cyfrinachol oedd wedi ei guddio y tu mewn i'r ffrâm, gan adael yr hanner gwaelod mewn darnau a balŵn coch ar ôl ar gefndir gwyn yn y ffrâm yn unig.