Galw am ragor o gymorth i elusennau gofal canser plant
Galw am ragor o gymorth i elusennau gofal canser plant
Yn 15 oed, ac yntau'n chwaraewr pêl-droed a chricedwr dawnus, fe gafodd Jacob Crane o Abertawe ddeiagnosis o leukemia.
Wedi’i ddiagnosis, fe ddaeth ei deulu a’i ffrindiau at ei gilydd i godi dros £20,000.
Ond wedi iddo guro’r salwch unwaith, fe ddaeth y newyddion fod y salwch wedi dychwelyd am yr eildro, ac ar 7 Mai eleni, yn 17 oed, bu farw Jacob.
Cafodd Sefydliad Jacob Crane ei sefydlu yn ei enw er mwyn codi arian a dangos cefnogaeth i deuluoedd sy’n mynd drwy’r un profiad.
Yn ôl Evan Dalton, un o ffrindiau Jacob, mae’n bwysig cadw ei enw a'r atgof ohono yn fyw.
“Yr unig beth oedd e moyn neud trwy gydol ei fywyd oedd helpu pobl eraill. Yn ei enw ef newn ni neud yn union hwnna,” meddai.
Fel rhan o ymgyrch codi arian at Sefydliad Jacob Crane, fe fydd dros 260 o aelodau staff, myfyrwyr a’r gymuned leol yn rhedeg ras 10k Abertawe ddydd Sul.
Ystafelloedd
Yn ddiweddar, ar y diwrnod pan fyddai Jacob wedi bod yn 18 oed, cafodd tair ystafell eu hagor yn enw Sefydliad Jacob Crane yn Nhŷ Ronald McDonald, Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Elusen sy’n rhoi cymorth ac llety i bobl sy’n dioddef o ganser yw Tŷ Ronald McDonald. Bu’r elusen hon yn gymorth i Jacob a’i deulu yn ystod ei salwch.
Galw am fuddsodiad pellach mae Lowri Griffiths sy’n gweithio i elusen ganser Tenovus.
“Mae’r strategaeth canser sydd gennym ar gyfer plant a phobl ifanc i fewn gydag oedolion.
"Mae’n bwysig ein bod ni yn gwahanu’r strategaeth, ac yn cael strategaeth arbennig i blant a phobl ifanc ar gyfer y dyfodol fel ein bod yn medru darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, sy’n hollbwysig gan fod ganddyn nhw anghenion gwahanol iawn.”