Cadarnhad mai Casnewydd fydd lleoliad Eisteddfod yr Urdd 2027
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027, yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yng Nghasnewydd nos Iau.
Cytunodd neuadd o wirfoddolwyr a chefnogwyr yn y cyfarfod yn Ysgol Gwent Is Coed, mewn pleidlais unfrydol, i estyn gwahoddiad i gynnal yr Eisteddfod yn y ddinas.
Hwn fydd y tro cyntaf erioed i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Chasnewydd ac mae’r Urdd a Chyngor Dinas Casnewydd yn y broses o drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Rwyf mor falch o weld cefnogaeth Cyngor Sir Casnewydd, a chymuned Rhanbarth Gwent gyfan i gynnal yr Eisteddfod yn 2027.
"Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw’r ffaith ei bod hi’n teithio, ac yn gallu ymweld ag ardaloedd sydd erioed wedi cynnal yr ŵyl.
"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda’r Cyngor a’r gymuned dros y tair blynedd nesaf i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal.”
'Balch iawn'
Dywedodd y Cynghorydd Emma Stowell-Corten, aelod cabinet dros gyfathrebu a diwylliant, Cyngor Dinas Casnewydd: “Rydym yn falch iawn bod Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Casnewydd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd 2027.
"Mae’n gyffrous meddwl y byddwn ni’n dod ag un o ddigwyddiadau blynyddol Cymru, ac un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, i’n dinas am y tro cyntaf erioed.
"Braf oedd gweld cynifer yn dod i’r cyfarfod heno a chystal cefnogaeth o fewn ein cymuned i gynnal Eisteddfod yr Urdd yma."
Mae’r paratoadau wedi dechrau yng Nghastell-nedd Port Talbot, yr ardal fydd yn cynnal yr Eisteddfod flwyddyn nesaf medd yr Urdd.
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr ym Mharc Margam rhwng 26 Mai – 31 Mai.
Bydd yr Ŵyl yn croesi’r bont i Ynys Môn yn 2026, cyn ymweld â Chasnewydd, rhanbarth Gwent yn 2027.