Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif benawdau ar fore dydd Sul, 11 Gorffennaf.
Rheol gwisgo gorchuddion wyneb i barhau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y rheol am wisgo gorchuddion wyneb yn parhau mewn grym am y tro tra bod coronafeirws yn fygythiad i iechyd cyhoeddus. Fe fydd hi'n ofynnol i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau megis ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn tacsis ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Rhybudd y gallai rhestr aros Gwasanaeth Iechyd y DU gyrraedd 13 miliwn
Mae'r Gweinidog Iechyd, Sajid Javid, wedi rhybuddio y gallai rhestr aros y GIG effeithio ar 13 miliwn o bobl dros y misoedd sydd i ddod. Daw hyn wrth i'r Gwasanaeth Iechyd wynebu cyfuniad o achosion Covid-19 yn codi ac oedi mewn triniaethau eraill, gan gynnwys archwiliadau cancr ac afiechydon y galon, yn ogystal â phrinder staff wrth i nifer orfod hunan-ynysu, yn ôl The Guardian.
Apêl am 'amynedd' o achos tagfeydd traffig ar gyrion Caernarfon
Mae disgwyl i haf 2021 fod yn un prysur iawn, yn enwedig gan na fydd nifer fawr o bobl yn teithio dramor ar gyfer eu gwyliau eleni. Yn sgil hyn mae disgwyl i’r traffig ar ein ffyrdd fod yn brysurach nag erioed, ac mae un cynghorydd sir o Wynedd wedi erfyn ar deithwyr i fod yn amyneddgar wrth i’r gwaith o adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd ger Caernarfon fynd yn ei flaen.
Ehangu cyfleoedd i fwyta ac yfed yn yr awyr agored
Mae mesurau’n debygol o gael eu cyflwyno i’w gwneud yn haws i gaffis a thafarnau osod byrddau y tu allan fel y gall pobl fwyta ac yfed yn yr awyr agored, yn ôl Golwg360. Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Boris Johnson gyhoeddi’r mesurau hyn fel rhan o strategaeth newydd i adfywio canol trefi o dan Gronfa Codi’r Gwastad (Levelling Up Fund) Llywodraeth Prydain.