Apêl am 'amynedd' o achos tagfeydd traffig ar gyrion Caernarfon
Apêl am 'amynedd' o achos tagfeydd traffig ar gyrion Caernarfon
Mae disgwyl i haf 2021 fod yn un prysur iawn, yn enwedig gan na fydd nifer fawr o bobl yn teithio dramor ar gyfer eu gwyliau eleni.
Yn sgil hyn mae disgwyl i’r traffig ar ein ffyrdd fod yn brysurach nag erioed, ac mae un cynghorydd sir o Wynedd wedi erfyn ar deithwyr i fod yn amyneddgar wrth i’r gwaith o adeiladu ffordd osgoi Bontnewydd ger Caernarfon fynd yn ei flaen.
Gyda’r gwaith o adeiladu’r ffordd newydd gwerth £135m barhau, mae’r cynghorydd dros ward Bontnewydd, Peter Garlick, nawr yn rhybuddio trigolion y pentref ac eraill sydd yn defnyddio’r ffordd i fod yn “amyneddgar”, gan fod disgwyl i’r gwaith o gwblhau’r ffordd newydd, achosi oedi difrifol.
“Rhaid chi fod efo digon o amynedd gyda dod drwy pentra’ Bontnewydd dros y dau fis nesa,” eglurodd.
“Mae hwn wedi bod yn achosi cur pen mawr i bobl a thrigolion sy’n byw yn y pentre.
“Plis byddwch efo digon o amynedd, yn enwedig dros y ddau fis nesa’ ‘ma.
“Dwi’n reit hyderus wedi hyn, y bydda ni ar y ‘last lap’ i orffen y ffordd.”
Mae disgwyl i ran o ffordd yr A487, rhwng Llanwnda a’r Felinheli ac yn osgoi Bontnewydd a Chaernarfon agor yn fuan yn 2022.