Rhybudd y gallai rhestr aros Gwasanaeth Iechyd y DU gyrraedd 13 miliwn

Pixabay
Mae'r Gweinidog Iechyd, Sajid Javid, wedi rhybuddio y gallai rhestr aros y GIG effeithio ar 13 miliwn o bobl dros y misoedd sydd i ddod.
Dywedodd Mr Javid ei fod wedi'i syfrdanu ar y nifer sydd yn disgwyl am driniaethau sydd ddim yn gysylltiedig â Covid-19.
Daw hyn wrth i'r Gwasanaeth Iechyd wynebu cyfuniad o achosion Covid-19 yn codi ac oedi mewn triniaethau eraill, gan gynnwys archwiliadau cancr ac afiechydon y galon, yn ogystal â phrinder staff wrth i nifer orfod hunan-ynysu, yn ôl The Guardian.
Darllenwch y stori'n llawn yma.