Rheol gwisgo gorchuddion wyneb i barhau yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y rheol am wisgo gorchuddion wyneb yn parhau mewn grym am y tro tra bod coronafeirws yn fygythiad i iechyd cyhoeddus.
Daw hyn wrth i Loegr baratoi i lacio cyfyngiadau o 19 Gorffennaf ymlaen, gyda'r disgwyl y bydd rheolau gwisgo gorchuddion wyneb yn cael ei diddymu erbyn 4 Medi.
Fe fydd hi'n ofynnol i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau megis ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn tacsis ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, fe fydd y llywodraeth yn ystyried os dylai gorchuddion wyneb fod yn ofynnol mewn lleoliadau eraill hefyd, fel lleoliadau manwerthu, os caiff y cyfyngiadau eu llacio ymhellach.
Mae disgwyl i weinidogion Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad tair wythnos rheoliadau coronafeirws wythnos nesaf. Mae disgwyl iddyn nhw hefyd gyhoeddi cynlluniau newydd ar sut y bydd Cymru yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd un i lefel rhybudd sero.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Bydd angen help pawb arnom i gadw’r coronafeirws dan reolaeth wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig – yn sicr nid yw'r feirws hwn wedi diflannu.
"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn parhau i boeni ac yn bryderus am fynd allan. Byddwn yn cynnal y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau – ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn llefydd eraill yn ôl yr angen – er mwyn helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel."
Yn y cyfamser, fe fydd rheolau ar orchuddion wyneb yn newid mewn ysgolion. Ddydd Gwener, ysgrifennodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, at bob ysgol yng Nghymru yn egluro na fydd angen gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ystafell ddosbarth o fis Medi ymlaen.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Mae gwisgo gorchuddion wyneb yn ffordd effeithiol o leihau trosglwyddiad y coronafeirws.
"Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i helpu i ddiogelu ein gilydd. Mae diogelu pawb wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru gydol y pandemig a bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn y dyfodol."