Newyddion S4C

Cyfle i gefnogwyr yr Adar Gleision nodi cyfraniad Sol Bamba

ITV Cymru 12/09/2024
Sol Bamba

Bydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn rhoi teyrnged i "arwr y clwb" Sol Bamba cyn eu gêm yn erbyn Derby County y penwythnos hwn.

Bydd cyfle i gefnogwyr yr Adar Gleision roi teyrnged i Bamba gyda munud o gymeradwyaeth cyn y gic gyntaf yn Pride Park.

Bu farw’r amddiffynnwr yn 39 oed tra’n gweithio fel cyfarwyddwr technegol yng nghlwb Adanaspor yn Nhwrci ar 31 Awst.

Wrth siarad â’r cyfryngau bnawn dydd Iau, dywedodd rheolwr Caerdydd, Erol Bulut: “Rwy’n ei adnabod fel chwaraewr o Trabzonspor felly cyfarfûm ag ef y tymor diwethaf hefyd pan ddechreuon ni.

"Boi gwych, cymeriad gwych ac fe wnes i gwrdd ag ef ychydig o weithiau. Fe wnaethom siarad ychydig bach. Person da iawn, iawn. Fel chwaraewr roedd [e] hefyd yn un gwych.

"Wrth gwrs, i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd mae'n un o'r chwaraewyr gorau. Roedd yn dda iawn gyda'r cefnogwyr.

"Pan ddarllenais i am hynny, ges i sioc. Roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth o'i le felly roeddwn i'n galw ychydig o ffrindiau dwi'n eu hadnabod yn Nhwrci. Roedd yn 39 oed. Mae'n dod yn rhy gyflym. Mae'n brifo. Mae'n brifo."

Creu hanes

Fe wnaeth Bamba dros 100 o ymddangosiadau i’r Adar Gleision dros bum mlynedd yn Ne Cymru fel chwaraewr a sicrhaodd le iddo'i hun yn hanes y clwb yn 2018 fel rhan o’r tîm a enillodd ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Dywedodd CPD Caerdydd fod y newyddion am farwolaeth Bamba wedi'i dderbyn gyda'r "tristwch dyfnaf", gan ddisgrifio Bamba fel "arwr clwb".

"Fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd effaith Sol ar ein clwb pêl-droed yn anfesuradwy.

"Roedd yn arwr i bob un ohonom, ac arweinydd ym mhob ystafell wisgo a gŵr bonheddig go iawn."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.