Newyddion S4C

Triniaeth Parkinson’s fydd yn ‘newid bywydau' ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd

ITV Cymru 13/09/2024
Lloyd Kelland

Pan gafodd Lloyd Kelland wybod bod ganddo Parkinson's, roedd yn credu ei fod yn "ddiwedd y byd" arno. 

Ond nawr, mae triniaeth newydd ar gyfer pobl sy'n byw gyda'r afiechyd wedi rhoi gobaith iddo.

Lloyd yw’r person cyntaf yng Nghymru i dderbyn triniaeth iar gyfer Parkinson’s sydd mae'n debyg yn gwella ansawdd bywyd cleifion a lleihau symptomau.

Dechreuodd Lloyd, sydd yn 66, sylwi ar gryndodau pan oedd yn 18 oed. Nid tan yn ddiweddarach, yn 2011, y dywedwyd wrtho fod ganddo Parkinson's - anhwylder sy'n effeithio ar y system nerfol a rhannau o'r corff a reolir gan y nerfau hynny.

"Roedd e’n ddiwedd y byd i fi. Roeddwn i'n gwybod beth oedd e cyn iddyn nhw ddweud, ond nes eu bod yn dweud wrthoch chi, rydych yn gobeithio nad hyn fydd e. Ond dyna oedd e. Mae pethe wedi mynd i lawr yr allt ers hynny", meddai.

Ychwanegodd: "Fe wnes i [sylwi] fy mod i'n arafu, achos rydw i wastad wedi bod yn actif. Rydw i wastad yn teimlo fel bod gen i'r ffliw. Dydych chi ddim yn teimlo'n dda, rydych chi'n llawn poenau.

"Y peth gwaethaf un yw’r cryndod. Alla i ymdopi â’r rhan fwyaf o bethau, ond y cryndod, y cryndod, y cryndod, mae'n ddi-stop."

Image
Lloyd Kelland
Llun: ITV Cymru

Mae'r afiechyd hefyd yn achosi dirywiad mewn lefelau dopamin, cemegyn sy'n helpu symudedd, ac fel arfer yn cael ei drin â thabledi geneuol. 

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gleifion lyncu lefelau uchel o dopamin yn gyson a all arwain at broblemau gyda symudiadau eraill.

Ond, mae triniaeth newydd wedi dod ar gael ar y GIG yng Nghymru, a’r arbenigwr Dr James Bolt, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yw’r meddyg cyntaf yn y wlad i’w gynnig i’w gleifion.

Mae Produodopa yn feddyginiaeth a weinyddir drwy nodwydd o dan y croen gan ddefnyddio pwmp arbennig.

Mae'r pwmp yn dosbarthu ychydig bach o'r feddyginiaeth bob awr sy'n cael ei amsugno'n raddol i'r llif gwaed.

Yn gweithio 24 awr y ddiwrnod, mae’n golygu y gall cleifion gael lefel mwy cyson o ddopamin yn eu corff drwy gydol y dydd a'r nos.

Image
Meddyg teulu
Dr James Bolt. Llun: ITV Cymru

Mae Dr Bolt wedi bod yn cydweithio gyda Mr Kelland i ymgorffori y driniaeth newydd hon yn ei fywyd, ac wedi cael canlyniadau amlwg.

Yn dilyn blynyddoedd o driniaeth aflwyddiannus i reoli'r afiechyd, dywedodd Mr Kelland: "Rydych chi'n dechrau rhoi'r gorau i obeithio."

Ef yw'r claf cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio Produodopa fel ffordd o frwydro yn erbyn symptomau.

Dywedodd: "Roeddwn i'n gwybod erbyn diwrnod dau - mae hyn yn mynd i weithio - gallwn ei deimlo. Tu mewn i fy stumog, byddwn yn crynu drwy'r amser, ond ar ôl diwrnod dau, roeddwn i'n teimlo bod pethau'n newid. Roeddwn i'n teimlo gymaint yn well, yn gallu gwneud y pethau bach syml.

"Pethau fel mynd i gysgu yn y nos. Roeddwn i'n gallu troi drosodd, ac roeddwn i wedi cael trafferth gwneud hynny. Gallwn i godi a mynd i'r toiled, ond eto, byddwn yn cael trafferth codi o'r gwely a chyrraedd yr ystafell ymolchi. Roedd pethau syml i mi mor enfawr."

I Lloyd, mae'r driniaeth wedi cynnig bywyd newydd iddo: "Mae wedi newid fy mywyd gymaint, mae'n anghredadwy. Doeddwn i ddim eisiau mynd allan, roeddwn i'n ymwybodol o'r ysgwyd. Roeddwn i'n aros i mewn mwy a mwy.

"Nawr rydw i ar y Produodopa, rydw i allan ac o gwmpas. Rydyn ni'n mynd am brydau bwyd, rydyn ni'n mynd gyda'r teulu. Dydw i ddim wedi bod ar awyren ers blynyddoedd ac roeddwn i'n meddwl bod fy nyddiau hedfan drosodd. Mewn pythefnos rydyn ni’n mynd i Dwrci, wnes i erioed freuddwydio y byddwn i'n ei wneud ond mae'n rhoi'r hyder i chi.

"Doedd gen i erioed ddyfodol, nawr mae pob dydd yn ddiwrnod da. Mae'n ddewis nawr."

Fe ychwanegodd: “Y  pethau syml sy’n cyfri, a rydw i’n caru pob un funud.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.