Caernarfon: Rhybudd am bobl ifanc yn 'taflu pethau' ar ôl taro babi mewn coets
12/09/2024
Caernarfon: Rhybudd am bobl ifanc yn 'taflu pethau' ar ôl taro babi mewn coets
O'r tywyllwch - clec.
Digon i roi braw i yrrwr, difrodi cerbyd, neu lawer gwaeth.
Nid dim ond cerbydau sydd wedi bod yn cael eu targedu.
Mae Heddlu'r Gogledd yn deud bod baban oedd yn cael ei wthio mewn coets ar hyd y lôn yma ger safle Rhufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon wedi ei daro gan wrthrych yn ddiweddar.
Doedd dim anaf, ond mi allai pethe fod yn wahanol.
Mae rhai'n ofni na fydd y targedau mor ffodus os bydd y sefyllfa'n parhau.
"Mae o'n beryg. 'Dy'r plant ddim yn sylwi faint o beryg ydy o.
"Maen nhw'n taflu wyau i gael hwyl, i gael sbort i weld reaction pobl yn dod o'r car.
"Fedar hwn ladd rhywun.
"Fedar pwy bynnag sy'n dreifio'r car golli control ben y curb a hitio plentyn.
"Wedyn, mae 'di mynd o sbort i drasiedi.
"Mor hawdd, mewn chwinciad.
"Mae'n rhy hwyr wedyn."
Yn ôl yr Heddlu, maen nhw wedi adnabod 14 o bobl ifanc rhwng 9 a 15 oed maen nhw'n amau o fod yn gyfrifol am daflu eitemau.
Bydd swyddogion yn siarad efo teuluoedd y rheiny.
Mae'r Heddlu'n deud bod yr ymddygiad yn cael effaith ddifrifol ar drigolion ac yn berygl.
Maen nhw'n pwysleisio mai erlyn pobl ifanc ydy'r dewis olaf ond os bydd yr ymddygiad yn parhau bydd rhaid iddyn nhw weithredu'n fwy ffurfiol.
Wedi saib dros yr haf, mae gwaith y clybiau ieuenctid ar fin ailddechrau a gobaith y bydd hynny'n help gyda phroblemau fel hyn.
"'Dan ni wedi cael rhai achosion o'r blaen o broblemau anghymdeithasol wedi digwydd yng Nghaernarfon.
"'Dan ni wedi gweithio efo pobl ifanc a'r Heddlu.
"Mae'r problemau i weld yn digwydd yn y tymor byr.
"Maen nhw'n ymgysylltu gyda'r ganolfan ieuenctid ac yn gwneud gwaith cadarnhaol yn y gymuned yn hytrach na chael yr elfen negyddol
allan ohoni."
Mae'r Heddlu'n annog rhieni'r ardal i siarad efo'u plant ac i fod yn ymwybodol o lle mae'r plant yn mynd gyda'r nos.
Mae plismyn yn annog unrhyw un sydd wedi gweld unrhyw beth amheus i gysylltu efo nhw.