Pryder am 'golli' Plas Tan-y-Bwlch fel 'adnodd cyhoeddus'
12/09/2024
Pryder am 'golli' Plas Tan-y-Bwlch fel 'adnodd cyhoeddus'
Plasty hynafol yn y Moelwynion sy wedi denu ymwelwyr ers blynyddoedd.
Roedd y plasty mawreddog yma unwaith yn gartref i deulu'r Oakleys perchnogion chwareli yn yr ardal gyfagos.
Ond mae'r adeilad dan berchnogaeth y Parc Cenedlaethol ers 1968 lle gafodd ei droi'n ganolfan ac yn cynnig ystod o gyrsiau preswyl.
Mae 'na bryder yn lleol wedi i'r plasty gael ei rhoi ar y farchnad am £1 miliwn ym mis Awst.
"Mae gennym nifer o bryderon ac yn cael trafferthion cael atebion gan yr awdurdod.
"Prif bryder ydy colli'r adeilad fel adnodd cyhoeddus y goedlan a'r llyn sy 'di cael eu defnyddio gan genedlaethau o bobl.
"Dim jyst y pentrefi agosaf, yr ardal ehangach."
"Mae pwysigrwydd y plas yn addysgiadol wedi bod, nid jyst yn lleol yn ardal y parc ei hun ond drwy Gymru gyfan a thrwy gyfrwng y Gymraeg hefyd trwy Brydain, Ewrop a thu hwnt.
"Buasai cael gwared o adnodd mor bwysig sy wedi cyfrannu gymaint a medru dal i gyfrannu yn bwysig fel hyn."
Cafodd y cynnig i brynu'r adeilad ei drafod y tu ôl i ddrysau caeedig ymysg aelodau'r awdurdod heddiw mewn cyfarfod yn y plasty.
"Mae'r cyhoedd a phobl lleol eisiau gwybod be sy'n digwydd.
"Ni'n awgrymu cyfarfod cyhoeddus a dw i 'di cynnig cadeirio fo fel bod pawb yn cael eu ddeud yn iawn.
"Hefyd, gwneud sesiwn galw i mewn ar yr un diwrnod fel bod pawb yn cael gweld be ydy'r amgylchiadau efo'r parc a'r problemau mae'r parc yn wynebu hefyd."
Dydy rhedeg canolfan o'r fath ddim yn rhad o bell ffordd.
Mae'n £250,000 yn flynyddol yn ôl yr awdurdod.
Mae wedi arwain at y corff yn wynebu sefyllfa ariannol anodd iawn.
"Wnes i benderfynu bod ni'n gohirio tan fis Tachwedd a'n cyfarfod nesaf.
"Byddwn ni wedi cael gwybod be mae'r pobl 'dan ni'n trafod efo fo yn dod ag adroddiad ymlaen i ni."
Wnaeth rhai godi yn y cyfarfod bod angen mwy o gyfathrebu rhwng y bwrdd a'r cyhoedd.
Ydy hynny'n deg?
"Na, a dw i 'di dweud heddiw bod ni'n fodlon cael cyfarfod gyda'r bobl leol cyn mis Tachwedd.
"Bydd hwnnw gyda ni efo'r adroddiadau o'r bobl ni'n delio efo ar hyn bryd.
"Fatha bob pwyllgor, mae rhai ar dân eisiau gwerthu o.
"Fi fy hun, 'swn i'n licio bod o'n aros mewn dwylo cyhoeddus."
Adeilad hynafol sy'n rhan amlwg o'r tirlun ers dros ganrif a hanner.
Y gobaith yw bod o'n parhau'n adnodd cymunedol am flynyddoedd i ddod.