Newyddion S4C

Cip ar gemau dydd Sadwrn y Cymru Premier JD

Sgorio 14/09/2024
Dan Williams Y Seintiau Newydd

Wedi chwe gêm gynghrair mae Pen-y-bont a Met Caerdydd yn parhau’n hafal ar bwyntiau ar y brig ac heb golli gêm y tymor hwn, ond mae’r ddau glwb yn wynebu gemau caled oddi cartref dros y penwythnos.

Gyda thair gêm wrth gefn bydd y pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn anelu i gau’r bwlch ar y deuawd o’r de dros y penwythnos wrth iddyn nhw groesawu’r Barri i Neuadd y Parc.

A thua’r gwaelod mae’n gaddo i fod yn frwydr gystadleuol ar yr Oval pan fydd Llansawel yn gobeithio ennill eu pwyntiau cyntaf ers eu dyrchafiad, oddi cartref yng Nghaernarfon.

Caernarfon (8fed) v Llansawel (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r hangover Ewropeaidd yn parhau i Gaernarfon sydd ond wedi ennill un o’u pum gêm gynghrair ar ôl haf i’w gofio yn Ewrop.

Ond mae’r Cofis bedwar pwynt uwchben Llansawel sy’n dal heb ennill pwynt ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair dros yr haf.

Cafodd clwb presennol Llansawel ei ffurfio yn 2009, ac hon fydd eu gêm gyntaf erioed yn erbyn Caernarfon.

Record cynghrair diweddar:

Caernarfon: ❌✅➖❌❌

Llansawel: ❌❌❌❌❌

Y Fflint (11eg) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Roedd yna ryddhad gan garfan Y Fflint ddydd Sadwrn diwethaf wedi i’r Sidanwyr guro Aberystwyth ac ennill eu pwyntiau cyntaf ers dychwelyd i’r uwch gynghrair.

Sgoriodd y blaenwr Elliott Reeves ddwywaith ar Goedlan y Parc ac roedd ei reolwr Lee Fowler yn llawn canmoliaeth amdano gan ddweud mae Reeves yw ymosodwr gorau’r gynghrair.

Daeth dechrau di-guro Hwlffordd i ben y penwythnos diwethaf wrth i’r Adar Gleision golli 1-0 yn erbyn y pencampwyr, Y Seintiau Newydd.

Ond ni fydd tîm Tony Pennock yn digalonni’n ormodol, yn enwedig ar ôl ennill eu tair gêm flaenorol yn erbyn Y Fflint.

Record cynghrair diweddar:

Y Fflint: ͏❌❌❌❌✅

Hwlffordd: ✅➖͏➖✅❌

Y Seintiau Newydd (5ed) v Y Barri (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Seintiau Newydd wedi creu hanes eleni drwy gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Bydd y clwb o Groesoswallt yn herio Fiorentina, Djurgarden, Astana, Shamrock Rovers, Panathinaikos a Celje yn Nghyngres UEFA y tymor hwn.

Ond tra bo’r Seintiau wedi bod yn brysur gyda’u gemau rhagbrofol yn Ewrop, mae eu gemau cynghrair wedi cael eu gohirio, ac felly mae’r pencampwyr mewn sefyllfa anghyfarwydd i lawr yn y 5ed safle gyda thair gêm wrth gefn.

Mae’r Barri wedi saethu i fyny’r tabl ar ôl dwy fuddugoliaeth yn olynol yn erbyn Y Fflint a Chei Connah, ac hynny ar ôl bod ar ei hôl hi yn y ddwy gêm.

Mae’r Seintiau wedi ennill 29 gêm gynghrair yn olynol, ac heb golli’n y Cymru Premier JDers Chwefror 2023 (Met 3-2 YSN).

Mae’r Seintiau wedi ennill saith o’u wyth gêm flaenorol yn erbyn Y Barri, ond fe lwyddodd y Dreigiau i gipio pwynt ar eu hymweliad diwethaf â Neuadd y Parc ‘nôl ym mis Awst 2023 (YSN 2-2 Barr).

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅

Y Barri: ➖❌❌✅✅

Cei Connah (8fed) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sul – 14:30

Pen-y-bont sy’n arwain y pac yn y Cymru Premier JD, yn eistedd ar frig y gynghrair trwy wahaniaeth goliau.

Dyw Pen-y-bont m’ond wedi colli un o’u 15 gêm gystadleuol ddiwethaf, a dyw tîm Rhys Griffiths m’ond wedi ildio ddwywaith mewn chwe gêm gynghrair y tymor hwn.

Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos yn yr8fed safle, ar ôl dechrau araf i’r tymor presennol.

Mae Cei Connah ar rediad o naw gêm heb golli yn erbyn Pen-y-bont (ennill 5, cyfartal 4),a bydd Billy Paynter yn benderfynol o ddod a rhediad di-guro’r gwrthwynebwyr i ben brynhawn Sul.

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ͏❌➖✅✅❌

Pen-y-bont: ͏➖͏➖✅✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.