Newyddion S4C

Lansio ymchwiliad llofruddiaeth wedi i ddyn farw o'i anafiadau yn Abertawe

12/09/2024
Heol Cwm

Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth wedi i ddyn farw ar ôl cael ei ddarganfod ag anafiadau difrifol yn Abertawe ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion eu galw i Heol Cwm, yn ardal Hafod o Abertawe toc wedi 12:00.

Bu farw'r dyn 27 oed o Waun Wen o’i anafiadau. 

Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae pedwar dyn o Abertawe - dyn 31 oed o Waun Wen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o Strand, a dyn 39 oed o Dreforys - wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae'r pedwar yn parhau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

Mae’r ymchwiliad yn parhau ac mae Heol Cwm yn parhau ar gau tra bod ymholiadau’n cael eu cynnal.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Raikes: “Rydym yn diolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u hamynedd tra bod yr ymchwiliad hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

“Rydym yn apelio am unrhyw dystion, gan gynnwys unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd oedd yn teithio ar hyd New Cut Road rhwng 11:50 a 12:00 ddoe, i gysylltu â ni.”

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400304178:

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.