Newyddion S4C

Gorchymyn goruchwylio i ddyn am dreisio merch 46 mlynedd yn nôl

ITV Cymru 12/09/2024
Denis Coles

Mae dyn wnaeth dreisio merch 11 oed yng Nghaerdydd yn y 1970au wedi derbyn gorchymyn goruchwylio bum mlynedd o hyd.

Fe wnaeth Denis Coles, 73, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau drwy linc fideo o’i gartref gofal lle mae’n byw. 

Fe gafodd Coles ei arestio ym mis Gorffennaf 2021 wedi i Heddlu De Cymru ail agor yr achos 46 mlynedd yn ddiweddarach.

Mae'r gorchymyn goruchwylio yn golygu fod Coles ar y gofrestr rhyw ac o dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Prawf.

Yn 2023, cynhaliwyd achos llys yn Llys y Goron Caerdydd. 

Gofynnwyd i weithwyr proffesiynol amrywiol asesu a oedd Coles yn ffit i sefyll ei brawf am dreisio plentyn, ac yn y pen draw penderfynwyd bod ei iechyd yn golygu nad oedd.

Arweiniodd hynny at yr hyn a elwir yn "dreial o'r ffeithiau", sy'n digwydd os canfyddir bod y sawl a gyhuddir yn anaddas i sefyll ei brawf. Mae hyn yn caniatáu i'r dystiolaeth yn erbyn y diffynnydd i gael ei brofi i ryw raddau.

O dan y gyfraith, roedd rheithgor ond yn gallu canfod Coles yn "euog o'r weithred", yn hytrach nag yn euog o'r drosedd yn y ffordd arferol. Mae hyn yn golygu pa bynnag ddedfryd y bydd y barnwr yn ei benderfynu, ni fydd yn mynd i’r carchar.  

Image
itv

‘Cefn fy meddwl drwy’r amser’ 

Fe wnaeth Coles dreisio Michelle, nid ei henw iawn, ychydig wedi 20:00 ar nos Lun ym mis Tachwedd 1977, wrth iddi gerdded adref yn ardal Tredelerch, Caerdydd. 

Mewn cyfweliad gyda ITV Cymru dywedodd: “Ces i ddim plentyndod a dwi’n meddwl mai dyna oedd y rhan waethaf ohono. 

"Pan ddylwn i wedi bod yn cael hwyl, chwerthin a bod yn hapus gyda fy ffrindiau, roedd hwn yng nghefn fy meddwl trwy'r amser".

Mewn datganiad personol a gafodd ei ddarllen yn y llys dywedodd Michelle: “Yn fy llygaid roedd Denis Coles yn gwybod yn union beth oedd yn ei wneud y noson honno.”

Roedd dillad Michelle, ynghyd â’r sampl DNA roedd ei hymosodwr wedi’i adael arnyn nhw, wedi cael eu storio’n ofalus am ddegawdau gan Heddlu’r De.

Anfonwyd y sampl DNA i'w brofi gan ddefnyddio technoleg nad oedd ar gael yn 1977. Daeth y sampl nôl gan ddangos bod y semen a ddarganfuwyd ar sgert, dillad isaf, sanau a chot Michelle yn cyfateb i DNA Denis Coles. 

Roedd Coles yn ei 20au yn 1977, ac wedi byw ei fywyd ers hynny yn ddyn rhydd.

Achos hanesyddol

Fe wnaeth mam Michelle ffonio’r heddlu wedi’r ymosodiad ac aethpwyd â hi i orsaf heddlu lle cafodd ei holi a'i harchwilio gan feddyg.

Fe wnaeth yr heddlu gynnal ymchwiliad, gan gymryd swabiau a chadw dillad Michelle fel tystiolaeth. 

Adroddodd y wasg yn lleol fod 80 o dditectifs wedi treulio’r dyddiau cyntaf ar ôl yr ymosodiad yn siarad â dros 1000 o bobol yn yr ardal, gan gynnwys disgyblion o 10 o ysgolion lleol.

Mewn achos llys flwyddyn yn ddiweddarach fe gafodd dyn ei ganfod yn ddieuog.

Fe wnaeth yr achos barhau heb ei datrys am 45 mlynedd. 

‘Bwrw ymlaen â fy mywyd’ 

“Nid dyna’r cyfiawnder roeddwn i eisiau,” meddai Michelle mewn cyfweliad wedi’r achos llys. 

“Ond rydw i wedi derbyn yr hyn sydd wedi digwydd ac rydw i eisiau bwrw ymlaen â fy mywyd. Rydw i mor ddiolchgar i’r holl bobl yn yr heddlu a weithiodd i gyrraedd mor bell.

“I feddwl y gallai rhywun fod wedi dianc o hyn ar ôl yr holl flynyddoedd, rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel beth roedd DNA yn gallu ei wneud”.

Dywedodd Michelle nad oes ganddi neges i Coles, “oherwydd nid yw'n werth meddwl amdano. Rwy'n berson gwell nag y bydd e byth.

"Ac roeddwn i yn y lle anghywir ar yr amser anghywir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.