Newyddion S4C

Beth yn y byd? Straeon rhyngwladol y dydd

12/09/2024
Winston Churchill gan Yousef Karsh

Dyma drosolwg o beth sy'n mynd ymlaen yn y byd ddydd Iau.

Y Cenhedloedd Unedig yn dweud bod Israel wedi lladd chwech o'i gweithwyr yn Gaza

Image
Difrod ar ol ymosodiad gan Israel yn Nuseirat, Gaza
Llun: Wochit

Mae asiantaeth y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ffoaduriaid Palesteinaidd wedi dweud bod chwech o’u gweithwyr wedi’u lladd mewn streic awyr gan Israel ar un o’r ysgolion y mae’n eu rhedeg yng nghanol Gaza.

Dywedodd llefarydd ar ran Amddiffyn Sifil Gaza, Mahmud Bassal, fod 18 o bobol wedi’u lladd yn y streic ar ysgol al-Jaouni yng ngwersyll ffoaduriaid Nuseirat, sy’n cael ei defnyddio fel lloches gan filoedd o Balesteiniaid sydd wedi’u dadleoli.

Dywedodd Byddin Israel eu bod wedi cynnal “streic ar derfysgwyr” sy'n cynllunio ymosodiadau o’r ysgol a’u bod wedi cymryd mesurau i osgoi niwed i sifiliaid.

Mae'r ymosodiad yn gyfystyr â “thoriadau dramatig o gyfraith ddyngarol ryngwladol”, yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres.

 

Darganfod llun o Winston Churchill oedd wedi'i ddwyn o Ganada yn yr Eidal

Image
YWinston Churchill gan Yousef Karsh
Llun: Yousef Karsh

Mae print gwreiddiol o ffotograff enwog o Winston Churchill wedi ei ddarganfod yn yr Eidal ar ôl mynd ar goll o westy yn Ottawa lle'r oedd un ffug yn ei le.

Fe gafodd y llun, sy'n cael ei alw "The Roaring Lion", ei dynnu yn 1941 gan Yousuf Karsh yn fuan ar ôl i Churchill roi araith yn ystod y rhyfel i Senedd Canada.

Dywedodd heddlu Ottawa fod y portread wedi’i ddarganfod ym meddiant prynwr preifat yn Genoa, yr Eidal, nad oedd yn ymwybodol ei fod wedi’i ddwyn.

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 43 oed o Powassan, Ontario, mewn cysylltiad â’r lladrad a’r gwerthiant anghyfreithlon.

 

Canmol Jon Bon Jovi am helpu dynes mewn trallod ar bont yn Tennessee

Image
Bon Jovi ar bont yn Tennessee
Llun: Heddlu Metropolitan Nashville

Mae'r arwr roc Jon Bon Jovi wedi cael ei ganmol gan yr heddlu am helpu dynes mewn trallod a oedd ar silff pont yn Nashville, Tennessee, nos Fawrth.

Yn ôl adroddiadau, roedd Bon Jovi wedi bod yn ffilmio fideo ar gyfer un o ganeuon ei fand ar Bont Cerddwyr John Seigenthaler pan gafodd y ddynes ei gweld.

Fe wnaeth Heddlu Metropolitan Nashville rannu lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos y cerddor o'r Unol Daleithiau yn cerdded i lawr y bont tuag at y ddynes.

Fe siaradodd gyda'r ddynes a'i helpu i ddod yn ôl ar y bont, meddai’r heddlu.

 

Bron i 200 o bobl wedi marw yn Fietnam yn dilyn Teiffŵn Yagi

Image
Llifogydd Vietnam
Llun: Wochit

Mae bron i 200 o bobl wedi marw yn Fietnam yn dilyn Teiffŵn Yagi ac mae mwy na 100 ar goll yn sgil llifogydd, meddai cyfryngau’r wladwriaeth ddydd Iau.

Yn ôl adroddiad gan bapur newydd VNExpress, mae 197 o bobl wedi marw a 128 yn parhau ar goll, gyda mwy na 800 wedi’u hanafu.

Mae miloedd o drigolion y brifddinas Hanoi, sy’n byw ger yr Afon Goch, wedi cael gorchymyn i adael yr ardal wrth i ddŵr yr afon lifo drwy'r strydoedd.

Fe wnaeth Teiffŵn Yagi daro arfordir gogleddol Fietnam ddydd Sadwrn a symud tua'r gorllewin, gan daro Hanoi gyda gwyntoedd cryfion a glaw trwm.

 

Cludo pump i'r ysbyty mewn achos o fotwliaeth honedig sy'n gysylltiedig â pesto

Image
Pesto
Llun: Wochit

Mae pump o bobl yn Ffrainc wedi cael eu cludo i'r ysbyty a'u rhoi ar beiriannau anadlu mewn achos o fotwliaeth (botulism) honedig sy'n gysylltiedig â pesto.

Yn ôl gweinidogaeth ffermio Ffrainc, mae’n bosibl bod saws garlleg gwyllt yng nghanolbarth y wlad wedi’i halogi â thocsin peryglus a all ymosod ar y nerfau.

Mae achosion fel hyn yn brin ond gallant fod yn angheuol, a gallant ddigwydd os yw bwydydd cartref wedi'u cadw'n amhriodol.

Mae Llywodraeth Ffrainc wedi adalw'r cynnyrch ar unwaith ac wedi anfon samplau i labordy i'w dadansoddi.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.