Arestio gyrrwr beic modur wedi i blentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad
Mae’r heddlu wedi arestio gyrrwr beic modur a fethodd â stopio wedi i blentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y plentyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey, Lerpwl gydag anafiadau “a fydd yn newid ei fywyd” ac mae mewn “cyflwr critigol”.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y plentyn a beic modur toc wedi 17.30 ar ffordd Central Drive, Shotton.
Ni wnaeth gyrrwr y beic modur stopio ar ôl y gwrthdrawiad, meddai’r heddlu.
Cyhoeddodd yr heddlu yn ddiweddarach ddydd Iau ei fod wedi ei arestio mewn ardal llu arall ac y byddai yn cael ei drosglwyddo'n ôl i ogledd Cymru.
Dywedodd y Prif Arolygydd Trystan Bevan fore dydd Iau, cyn arestio'r dyn: “Mae presenoldeb heddlu sylweddol yn ardal Shotton heno wrth i swyddogion geisio dod o hyd i rywun a ddrwgdybir o fethu â stopio yn dilyn y gwrthdrawiad.
“Mae tri o bobl hefyd wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
“Rwy’n annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu unrhyw un a oedd yn teithio yn ardal Central Drive ar y pryd ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, lluniau ffôn symudol neu luniau teledu cylch cyfyng, i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.”
Mae modd cysylltu ar 101, neu drwy’r wefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod Q137770.