Sgiliau darllen Cymraeg disgyblion yn parhau i ddioddef ar ôl y pandemig
Mae arolygiaeth addysg Cymru wedi dweud bod y pandemig Covid-19 yn parhau i effeithio ar allu pobl ifanc Cymru i ddarllen yn y Gymraeg.
Dywedodd Estyn bod “effaith negyddol y pandemig yn glir o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion yn gyffredinol”.
Ychwanegodd y corff bod “rhai disgyblion wedi colli’r hyder i gyfathrebu a darllen yn Gymraeg”.
Ymysg yr argymhellion mae annog creu cyfleoedd i awduron Cymraeg siarad â disgyblion am y math o lyfrau yr hoffent eu darllen yn y Gymraeg.
Maen nhw wedi cyhoeddi adroddiad newydd, Datblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion 10-14 oed, sy’n amlygu'r broblem.
Dywedodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, nad oedd “yn syndod” eu bod yn gweld effaith negyddol y pandemig o hyd ar safon medrau darllen Cymraeg disgyblion.
“Mae ein hadroddiad newydd yn amlygu arfer dda gan ysgolion ac yn cynnig nifer o awgrymiadau a phecynnau cymorth ymarferol i gynorthwyo athrawon i ddatblygu medrau darllen Cymraeg disgyblion,” meddai.
“Mae cyfleoedd clir i wella sut gall clystyrau o ysgolion gydweithio â’i gilydd i ddatblygu medrau darllen disgyblion a chreu cyfleoedd mwy pwrpasol i ddatblygu medrau darllen Cymraeg ar draws y cwricwlwm.
“Mae gwella safon medrau darllen disgyblion yn flaenoriaeth genedlaethol ac rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn cynorthwyo ysgolion i gynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu diddordeb, gwydnwch a hyder disgyblion wrth ddarllen yn Gymraeg.”
Yr adroddiad
Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion, gan gynnwys.
Dylai arweinwyr mewn ysgolion ystyried:
• Cryfhau’r cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau darllen mewn pynciau ar draws y cwricwlwm yn ogystal â’r Gymraeg
• Monitro a gwerthuso medrau darllen disgyblion er mwyn adnabod yn glir pa agweddau o ddarllen sydd angen eu gwella neu’u cryfhau.
• Cynllunio’n strategol a strwythuro cyfleoedd i gynyddu awydd, dygnwch a hyder disgyblion pan yn darllen yn y Gymraeg
Dylai awdurdodau lleol ystyried:
• Hwyluso trefniadau pontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd a goresgyn unrhyw rwystrau i sicrhau bod ysgolion yn gallu cydweithio’n fuddiol i ddatblygu medrau darllen disgyblion
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried:
• Creu cyfleoedd i awduron Cymraeg ymgysylltu ag ysgolion a siarad â disgyblion am y math o lyfrau yr hoffent eu darllen yn y Gymraeg.
• Gweithio gyda phartneriaid fel ‘Adnodd’ i wella a chynyddu’r adnoddau darllen cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, gan gynnwys llyfrau ffeithiol.
Roedd llawer o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo darllen er pleser yn llwyddiannus, meddai’r adroddiad.
Ond mae’n dweud bod “profiadau i hyrwyddo darllen y tu allan i’r ystafell ddosbarth wedi lleihau’n sylweddol ers y pandemig”.
Mae’r arolygiaeth yn argymell y dylai ysgolion gryfhau cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu amrywiaeth o fedrau darllen mewn pynciau ar draws y cwricwlwm, yn ogystal â’r Gymraeg.