Newyddion S4C

Penodi gweinidog iechyd newydd wedi i Eluned Morgan ailwampio'r Cabinet

11/09/2024

Penodi gweinidog iechyd newydd wedi i Eluned Morgan ailwampio'r Cabinet

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi ailwampio cabinet ei llywodraeth - gydag ambell newid i rai o'r prif swyddi.

Jeremy Miles AS yw Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda Mark Drakeford yn symud o'r swydd honno i fod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg.

Mae'r briff iechyd yn un o swyddi mwyaf y llywodraeth gan fod cymaint o gyllid yn cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd, a phwysau cynyddol ar y gwasanaeth hwnnw.

Roedd yn swydd yr arferai Elued Morgan ei gwneud ei hun cyn dod yn Brif Weinidog.

Roedd Jeremy Miles wedi dod yn ail i Vaughan Gething yn y ras i arwain ei blaid, cyn iddo ymddiswyddo yn yr haf ynghyd â thri gweinidog arall mewn protest dros arweinyddiaeth Mr Gething.

Mae un o'r tri gweinidog arall, Julie James AS, wedi ei phenodi'n Ddarpar Gwnsler Cyffredinol yn y Cabinet newydd.

Mae Huw Irranca-Davies yn aros fel Dirprwy Brif Weinidog.

Mae Jane Hutt yn parhau yn y Cabinet newydd - gwleidydd sydd wedi bod mewn pob Cabinet o Lywodraeth Cymru ers chwarter canrif.

Ond un sydd yn absennol o'r Cabinet am y tro cyntaf mewn 13 o flynyddoedd ar y fainc flaen yw Lesley Griffiths AS.

'Sefydlogrwydd'

Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog: "Mae’r newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd, yn manteisio ar brofiad, ac yn dod â’n holl dalentau ynghyd. Mae’r portffolios newydd yn adlewyrchu’r Gymru fodern ac wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r prif heriau y mae pob un ohonom yn eu hwynebu. 

"Rwyf wedi treulio’r haf yn gwrando ar bobl Cymru, a bydd fy mhenodiadau i’r Cabinet newydd nawr yn canolbwyntio o ddifrif ar y blaenoriaethau a glywais ganddyn nhw.   

"Dyma dîm a fydd yn cynrychioli pob rhan o Gymru gan weithio ar ran y genedl gyfan. Mae fy nhîm a minnau wedi ymrwymo i gyflawni newid cadarnhaol i bobl Cymru ar y materion sydd bwysicaf iddyn nhw."

Dyma'r penodiadau'n llawn:

  • Huw Irranca-Davies AS - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jeremy Miles AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Mark Drakeford AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
  • Rebecca Evans AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
  • Jayne Bryant AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
  • Lynne Neagle AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Ken Skates AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
  • Jane Hutt AS - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
  • Jack Sargeant AS - Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
  • Vikki Howells AS - Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
  • Sarah Murphy AS - Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Dawn Bowden AS - Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
  • Julie James AS - Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Cymru’n haeddu gwell na llywodraeth Lafur “flinedig a rhanedig” sy’n methu darparu atebion i’r heriau sy’n wynebu'r wlad.

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, efallai fod yna brif weinidog newydd ym Mae Caerdydd ond mai'r "un hen Lafur" sydd mewn grym o hyd.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd: “Rydym yn gwybod y bydd y llywodraeth Lafur hon yn parhau i fethu yn y meysydd allweddol sydd o bwys i Gymru wrth iddynt ganolbwyntio amser ac egni ar brosiectau dibwrpas.

“Y Ceidwadwyr yw’r gwir ddewis amgen i wleidyddiaeth Llafur... a dim ond gyda Llywodraeth Geidwadol Cymru y bydd pethau o’r diwedd yn newid er gwell.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.