'Dros ein bwyd i gyd': Miloedd o bryfaid yn gwneud bywydau trigolion pentref yn 'uffern'
Mae trigolion pentref yn ne Cymru yn dweud bod miloedd o bryfaid yn casglu yn eu tai wedi gwneud eu bwyd yn "uffern."
Ym Metws, Pen-y-bont ar Ogwr, mae nifer o bobl wedi methu ag agor eu ffenestri na pharatoi bwyd heb i lawer o bryfed ymyrryd arnynt.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor nad oeddynt yn gwybod o le oedd y pryfaid i gyd yn dod.
Mae rhai trigolion fel Hayley Laaser, 42, wedi dweud bod y broblem wedi bod yn un barhaus dros y blynyddoedd diwethaf, ond eleni mae mwy o bryfaid nag erioed.
"Rydym ni mewn sefyllfa lle mae pryfaid pob man ac mae'n cael effaith mawr ar ein hiechyd meddwl," meddai.
"Rydym ni wedi ceisio defnyddio stribedi gludiog, rhwyd, a hyd yn oed cadw'r drysau a ffenestri ar gau ond does dim byd yn gweithio."
Ychwanegodd: "Mae miloedd ohonyn nhw ac mae pobl yn meddwl bod ni'n gwneud môr a mynydd o'r sefyllfa ond mae rhaid i chi eu gweld i'w gredu.
"Mae gymaint ohonyn nhw ac mae'n embaras pan mae pobl yn dod i'ch tŷ i ddweud y gwir. Does dim modd gwneud pryd o fwyd heb gael pryfaid dros eich bwyd."
'Methu gweini bwyd'
Mae'r broblem hefyd yn cael effaith ar fusnesau yn y pentref.
Melanie Simons yw perchennog Tafarn yr Oddfellows ac nid oedd modd iddi weini bwyd yn y dafarn dros y dyddiau diwethaf oherwydd nifer y pryfaid.
Dywedodd: "Mae'n ofnadwy yma, mae'r broblem yma wedi bodoli yn y gorffennol ond nid yw wedi bod mor wael â hyn erioed.
"Nid ydym ni wedi gallu gweini bwyd dros y dyddiau diwethaf oherwydd nifer y pryfaid sydd dros y bwyd i gyd, ac mae hyd yn oed bwydo'r ci yn anodd oherwydd maen nhw yno o fewn eiliadau."
Mae'r Cynghorydd Martyn Jones, aelod y cyngor lleol dros Fetws wedi dweud bod nifer o drigolion wedi codi pryderon.
"Dwi wedi derbyn nifer o alwadau ac e-byst gan drigolion pryderus sydd wedi gorfod delio gyda nifer o bryfaid dros yr wythnos diwethaf," meddai.
"Dwi wedi adrodd y problemau i arbenigwyr iechyd yr amgylchedd o fewn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, ac maen nhw mewn trafodaeth gyda rheoleiddwyr eraill i ddod i wraidd y broblem.
"Mae'n bwysig osgoi dyfalu am wraidd y broblem nes iddyn nhw gwblhau'r broses hon."
Ychwanegodd y cynghorydd y byddai modd cymryd "y camau priodol i fynd i’r afael â’r broblem" pan fydd hynny'n digwydd.