Newyddion S4C

Tîm Menywod Rygbi Cymru yn chwarae mewn siorts coch am y tro cyntaf erioed

11/09/2024

Tîm Menywod Rygbi Cymru yn chwarae mewn siorts coch am y tro cyntaf erioed

Ymgyrch newydd a chit rygbi newydd ond am y tro cynta erioed bydd tîm merched rygbi Cymru yn chwarae mewn shorts coch yn hytrach na'r rhai gwyn traddodiadol.

A'r sêl bendith gan Gapten Cymru.

"Fi'n hoffi fe. Coch yw lliw favourite fi, mae'n neis."

Ond mae'r newid o goch i gwyn hefyd yn gam pwysig sy'n ceisio mynd i'r afael â phryderon chwaraewyr sydd ar eu mislif.

"Mae lot o ferched ddim yn chwarae neu ddim yn moyn neud chwaraeon.

"Ni jyst yn rhoi fe mas bo ni'n gallu chwarae ar period hefyd.

"Mae fe jyst yn helpu hefyd. Mae'n help gyda shorts coch hefyd.

"Mae'n grêt gallu chwarae a bod yn normal a ffocysu ar rygbi."

Yn ôl cwmni iechyd Nuffield mae dros 80% o ferched yn eu harddegau yn dweud eu bod nhw'n wedi colli diddordeb mewn chwaraeon ar ôl dechre eu mislif.

Tra bod 23% yn dweud eu bod nhw'n teimlo embaras yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ond gyda'r shorts coch yma mae merched rygbi Cymru yn gobeithio newid hynny.

"Mae llwyth o ferched ifanc yn cael period anxiety yn chwarae.

"Mae'n galluogi ni ffocysu ar chwarae a dim becso amdano fo."

Yw hwnna'n rhywbeth sydd wedi poeni ti yn y gorffennol?

"Yn sicr, mae merched yn checo os mae fe di dod trwyddo ond nawr bydd ni jyst yn ffocysu ar y gêm."

Yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad llynedd penderfynodd Iwerddon newid o shorts gwyn i rai glas tywyll ar ôl i chwaraewyr leisio pryderon am y mislif.

Tra bod Lloegr wedi penderfynu yn erbyn y newid gan ddadlau na ddylai fod yn bwnc tabŵ.

A dyna'n union ma'r podlediad yma'n ceisio neud wrth drafod iechyd menywod a phynciau fel y mislif yn agored.

Ond yn ôl cyflwynydd mae angen neud mwy.

"Mae'n gam bach ond yn gam mawr.

"Mae'n bwnc i bawb a mae angen dechre ar y lefel gymdeithasol fach.

"Ni angen gweld shifft gan y llywodraeth i bwsho'r pynciau."

Mae'r cam bach yma gan Undeb Rygbi Cymru yn gam pwysig a'r gobaith yw bod newid lliw yn newid agweddau a sicrhau bod merched yn aros ym myd y campau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.