Gwahardd y pêl-droediwr Enzo Fernandez rhag gyrru wedi troseddau yn Llanelli ac Abertawe
Mae’r pêl-droediwr Enzo Fernandez wedi ei wahardd rhag gyrru wedi troseddau yn Llanelli ac Abertawe.
Derbyniodd y chwaraewr Chelsea a’r Ariannin, sy’n werth dros £100m, ddirwy o £3,020 ac fe gafodd ei wahardd am chwe mis.
Cafodd y gŵr 23 oed ei gyhuddo o beidio â datgelu gwybodaeth am ei hun i heddluoedd De Cymru a Dyfed-Powys.
Honnir bod gyrrwr y car wedi ei ddal yn goryrru ar Heol Caerfyrddin, Abertawe ar Ragfyr 20 2023.
Roedd hefyd dan amheuaeth o yrru ei gar Porsche Cayenne drwy olau coch ar Stryd yr Eglwys, Llanelli, ar 27 Rhagfyr 2023.
Ni lwyddwyd i brofi mai Fernandez oedd yn gyrru'r car ar yr achlysuron rheini.
Ysgrifennodd y ddau heddlu at y chwaraewr, perchennog cofrestredig y cerbyd, ond ni ymatebodd i geisiadau am wybodaeth.
Ni ymddangosodd Fernandez o flaen Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher i gael ei ddedfrydu chwaith, ar ôl i’r llys ei gael yn euog yn ei absenoldeb mewn dau wrandawiad ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Wyn Evans, cadeirydd yr ynadon: “Rydym yn ymdrin â dau fater o fethu â chynnig hunaniaeth y gyrrwr, materion sydd wedi eu profi yn absenoldeb Enzo Fernandez.”
Cafodd ddirwy o £1,000 a £110 mewn costau heddlu am y drosedd yn Llanelli a dirwy bellach o £1,000, £800 o ordal dioddefwr a £110 mewn costau heddlu am y drosedd yn Abertawe.
Cafodd chwe phwynt cosb am bob trosedd hefyd – cyfanswm o 12 pwynt i gyd.
Roedd gan Fernandez naw pwynt cosb eisoes ar ei drwydded am oryrru, gan arwain at waharddiad awtomatig am chwe mis gan ddechrau o ddydd Mercher.
Enillodd Fernandez Gwpan y Byd gyda’r Ariannin ym mis Rhagfyr 2022 a mis yn ddiweddarach ymunodd â Chelsea mewn cytundeb trosglwyddo o £106.8 miliwn.