Newyddion S4C

Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi 'methu ag ymateb i Ombwdsmon Cymru'

12/09/2024
bwrdd iechyd cwm taf.png

Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i Ombwdsmon Cymru, a hynny wedi iddyn nhw lansio ymchwiliad i'w gwasanaethau.

Fe wnaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru lansio ymchwiliad ar ôl i Mrs Y gwyno am y gofal a'r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs W, gan y bwrdd iechyd. 

Daeth yr adroddiad terfynol i gŵyn Mrs Y i'r casgliad fod yna fethiannau o ran ceisio caniatâd y claf, ac mewn perthynas â gofal ôl-driniaethol priodol gan gynnwys monitro, lleddfu poen a gofal y geg. 

Mae'r Ombwdsmon yn dweud nad oedd unrhyw ddewis ond cyhoeddi adroddiad Diddordeb Cyhoeddus wedi i'r Bwrdd Iechyd anwybyddu ceisiadau gan ei staff i wneud sylwadau ar yr adroddiad drafft.

Ychwanegodd yr Ombwdsmon nad yw hwn yn fater unigol, gan ddweud ei fod yn enghraifft o 'sawl achos' lle mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi 'methu â darparu gwybodaeth neu sylwadau'.

Mae'r Ombwdsmon wedi bod mewn cysylltiad â'r Bwrdd Iechyd am yr oedi yn ogystal â chyfarfod y Prif Weithredwr. 

'Peri pryder difrifol'

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Rwy’n bryderus iawn am ddiffyg gweithredu’r Bwrdd Iechyd. Rhoddwyd sawl cyfle i’r Bwrdd Iechyd wneud sylwadau ar ddrafft o’r adroddiad hwn ond ni wnaeth hynny.  

"Felly nid yw'r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau a yw'n derbyn yr argymhellion hyn ac am y rheswm hwnnw bu'n rhaid cyhoeddi'r adroddiad hwn fel adroddiad diddordeb cyhoeddus.  Mae hyn yn annerbyniol ac yn peri pryder difrifol i’r cyhoedd."

Fe wnaeth yr Ombwdsmon argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys ymddiheuro i Mrs Y am y methiannau a gafodd eu nodi. 

Fe wnaeth hefyd argymhell cyflwyno'r adroddiad a'r rhesymau y mae'r Ombwdsmon wedi ei gyhoeddi fel adroddiad diddordeb cyhoeddus, i sylw Cadeirydd Pwyllgor Ansawdd a Diogelwch y Bwrdd. 

Wedi i'r adroddiad gael ei gyhoeddi ac ar ôl gwybod y byddai'n cael ei gyhoeddi fel adroddiad diddordeb cyhoeddus, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg dderbyn canfyddiadau a chasgliadau'r Ombwdsmon a chytuno i'w rhoi ar waith. 

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: "Rydym yn cydnabod yn llwyr ganfyddiadau adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac yn cydnabod ein methiannau wrth fethu ag ymateb ar unwaith. I fynd i'r afael â hyn, rydym wedi sefydlu system gadarn i ddelio gydag achosion yr Ombwdsmon yn y dyfodol yn effeithiol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.