Newyddion S4C

‘Edrych yn iawn o bell’: Cerflun newydd o Elizabeth II yn hollti barn

11/09/2024
Cerflun Elizabeth II

Mae cyngor wedi amddiffyn cerflun newydd o’r Frenhines Elizabeth II ar ôl i drigolion lleol ddweud nad oedd yn debyg iddi.

Cafodd y cerflun gan yr artist Anto Brennan ei ddatgelu yng ngerddi castell Antrim yng Ngogledd Iwerddon ddydd Gwener.

Yn ogystal â’r Frenhines Elizabeth II mae’n cynnwys ei diweddar ŵr y Tywysog Philip a’u corgwn.

Dywedodd y cyngor ei fod yn dangos “gosgeiddrwydd” y Frenhines a fu farw ddwy flynedd ynghynt.

Maen nhw bellach wedi cydnabod bod y cerflun wedi “hollti barn” a bod y cyfryngau cymdeithasol wedi “amlygu safbwyntiau negyddol”.

Image
Y cerflun
Y cerflun

Roedd un o gynghorwyr y dref, John Smyth, ymysg y rheini a ddywedodd ei fod wedi ei “synnu” gan y cerflun.

“Rwy’n falch o ddweud nad oeddwn ar y pwyllgor a’i ddyluniodd,” meddai.

Pan ofynnwyd iddo beth oedd ei farn o’r cerflun, dywedodd: “Syndod, mae’n debyg. Roedd yn edrych yn iawn o bell.

“Roeddwn i’n meddwl y gallai’r wyneb fod ychydig yn well. O'i gymharu â cherflun Dug Caeredin, yr oeddwn i'n rhan ohono, byddwn i'n dweud sy'n well.

“Ond mae’n amhosib ei newid nawr y mae wedi'i wneud. Unwaith ydach chi'n bwrw cerflun efydd, dyna ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.