Newyddion S4C

Tata Steel: Cytundeb newydd £500m ‘ddim yn ddelfrydol’ i weithwyr Port Talbot

11/09/2024
Port Talbot

Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU wedi cyfaddef bod cytundeb newydd £500m ar gyfer gwaith dur Tata Steel “yn syrthio’n fyr o’r hyn fyddai’n ddelfrydol” ar gyfer gweithwyr Port Talbot.

Ond dywedodd Jonathan Reynolds ei fod yn teimlo bod y llywodraeth “wedi gwneud mwy o gynnydd dros y ddeufis diwethaf nag yn ystod y senedd ddiwethaf”.

Mae’r cynllun newydd yn cynnig gwell pecyn colli gwaith i weithwyr a phecyn sy’n cynnig eu haddysgu â sgiliau newydd.

Dywedodd Jonathan Reynolds bod y llywodraeth flaenorol wedi “cefnu ar eu cyfrifoldebau” i’r diwydiant dur.

Mae disgwyl i tua 2,800 o swyddi gael eu colli ym Mhort Talbot o ganlyniad i gau ffwrneisi chwyth a newid i ddefnyddio system gynhyrchu arc trydan.

Cadarnhaodd y llywodraeth y bydd yn cyfrannu £500 miliwn at y gwaith, ond y gallen nhw hawlio’r buddsoddiad yn ôl os nad yw cwmni Tata Steel yn cadw 5,000 o swyddi.

Dywedodd gweinidogion ddydd Mercher y bydd yn “fargen newydd a gwell” a fydd yn mynd yn llawer pellach na chytundeb y llywodraeth flaenorol.

Roedd hynny’n cynnwys isafswm taliad diswyddo gwirfoddol o £15,000 ar gyfer gweithwyr llawn amser ynghyd â chynnig talu am hyfforddiant pellach.

Dywedodd Jonathan Reynolds: “Mae Port Talbot wastad wedi bod a bydd bob amser yn dref gwneud dur. 

“Mae’r fargen hon yn gwneud yr hyn y methodd bargeinion blaenorol ei wneud – rhoi gobaith i ddyfodol gwneud dur yn ne Cymru.

“Mae dur yn sylfaenol i economi, sofraniaeth a chymunedau’r DU, ond mae diffyg gweithredu gan y llywodraeth yn y gorffennol wedi difetha’r diwydiant gwneud dur.

“Nid yw’r ffordd ymlaen heb ei heriau ond bydd ein strategaeth ddur yn gosod gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer dyfodol y diwydiant.”

Ymateb

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd undebau GMB a Community nad oedd y cytundeb “yn rhywbeth i’w ddathlu”.

“Ond mae’n well na’r cynllun ofnadwy a gyhoeddodd Tata a’r Torïaid yn 2023.”

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Roedd y llywodraeth flaenorol wedi syrthio i gysgu wrth y llyw.

“Mae’r argyfwng presennol yn ganlyniad uniongyrchol iddi fethu â buddsoddi yn niwydiant dur y DU.”

Dywedodd T V Narendran, Prif Swyddog Gweithredol a Rheolwr Gyfarwyddwr Tata Steel: “Gyda chefnogaeth hollbwysig llywodraeth y DU, mae gan y trawsnewidiad uchelgeisiol hwn y potensial i wneud Port Talbot yn un o brif ganolfannau Ewrop ar gyfer gwneud dur gwyrdd. 

"Hoffwn ddiolch i Bwyllgor Dur y DU ac amrywiol adrannau llywodraethau’r DU a Chymru am eu cefnogaeth i gyrraedd y cytundeb hwn. 

"Edrychwn ymlaen yn awr at weld y prosiect yn cael ei roi ar waith yn effeithlon ac yn gyflym. 

"Byddwn hefyd yn parhau â’n gwaith gyda’r Bwrdd Pontio a llywodraethau’r DU a Chymru i alluogi’r prosiect hwn i fod yn gatalydd ar gyfer adfywio economaidd a chreu swyddi yn ne Cymru.”

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad cyllid yma heddiw. Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll ochr yn ochr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi gweithwyr Tata Steel a sicrhau dyfodol newydd i gynhyrchu dur yng Nghymru.

“Mewn sefyllfa sy’n parhau i fod yn hynod gythryblus i lawer, byddwn yn parhau i weithio gyda phob parti i sicrhau bod gweithwyr, cyflenwyr a’r gymuned ehangach yn cael eu cefnogi wrth i’r diwydiant drawsnewid i ddur gwyrdd, fydd yn hanfodol i ddyfodol economi’r DU.”

'Torcalonnus'

Dywedodd ysgrifennydd busnes a masnach yr wrthblaid, Greg Smith, fod cytundeb y Llywodraeth ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot “yn dorcalonnus”.

Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Nid yw’n syndod bod y Blaid Lafur, unwaith eto, wedi esgor ar dranc ein diwydiant dur.

“O dan y llywodraeth Lafur ddiwethaf, gostyngodd allbwn 47% ac fe gollwyd 56% o swyddi.

“Mae’r cytundeb heddiw bellach yn golygu bod 100% o’r allbwn wedi mynd ym Mhort Talbot.

“Bydd y ffwrnais drydan yn cymryd, ar y gorau, bum mlynedd i’w sefydlu, gyda rhai gan awgrymu wyth i naw mlynedd cyn creu’r un swydd newydd, os gwelwn ni unrhyw swyddi newydd o gwbl.”

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi ac Egni, Luke Fletcher AS fod y cytundeb newydd yn “fersiwn arall o'r fargen a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol flaenorol”.

“Dyma enghraifft arall eto o fethiant hirdymor San Steffan i ddarparu cefnogaeth ystyrlon i ddiwydiannau a gweithwyr Cymru,” meddai.

"Mae'r diwydiant dur yn rhan sylfaenol o'n treftadaeth ddiwydiannol ac yn ased strategol hanfodol.

“Mae angen i ni ddeall beth mae Llafur yn ei gynnig yn wahanol i'r hyn mae'r Ceidwadwyr eisoes wedi'i gynnig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.