Newyddion S4C

Ailgartrefu anifeiliaid ar ôl i'w perchennog gael ei garcharu am eu cam-drin

11/09/2024
RSCPA

Fe fydd dau gi ac wyth o gathod yn cael cartrefi newydd wedi i’w perchennog gael ei garcharu a’i atal rhag cadw anifeiliaid am weddill ei oes. 

Bu farw dwy gath dan ei ofal. 

Fe wnaeth RSPCA Cymru achub yr anifeiliaid o'i eiddo yn Abertawe ym mis Awst y llynedd.

Roedd yr eiddo'n llawn llanast gyda baw anifeiliaid drwyddo yn ôl yr elusen.

Fe blediodd Daniel Mark Jones, 32 oed o Glos Llanllienwen, Ynysforgan, yn euog i bum cyhuddiad o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid yn Llys Ynadon Abertawe ar ddydd Iau, 29 Awst eleni. 

Plediodd yn euog i achosi “dioddefaint diangen” i gi teriar Staffordshire o’r enw Rocky, yn ogystal â chi collie-lurcher o’r enw Brandy. Roedd y ddau gi wedi colli llawer o bwysau a datblygu cyflwr croen, ac nid oedd Mr Jones wedi ceisio eu cynorthwyo.

Roedd hefyd wedi achosi “dioddefaint diangen” i wyth o gathod o’r enw Dot, Dora, Snickers, Caesar, Bela, Narla, Rose a Gizmo wedi iddo beidio â rhoi digon o ddŵr iddyn nhw.

Image
Cathod

Fe achosodd dioddefaint diangen i gath o’r enw White Lily yn ogystal gan ei gadael mewn cyflwr corfforol gwael. 

Fe fethodd hefyd a sicrhau bod ei holl anifeiliaid wedi derbyn gofal priodol.

Mewn datganiad i’r llys dywedodd Arolygydd yr RSPCA, Gemma Cooper, ei bod wedi cael gwybod ar 25 Awst y llynedd bod dwy gath wedi cael eu cyflwyno i’r milfeddyg mewn cyflwr corfforol gwael. Bu farw White Lily a bu'n rhaid difa cath arall.

Cafodd Mr Jones ei ddedfrydu i 26 wythnos yn y carchar am bedair trosedd, yn ogystal ag 20 wythnos yn y carchar am drosedd arall - gyda'r dedfrydau i gydredeg. 

Cafodd ei ddedfrydu i bedair wythnos yn ychwanegol yn y carchar am beidio am ymddangos yn y llys ar y gorchymyn cyntaf ar 24 Mehefin. 

Mae’r wyth o gathod bellach dan ofal yr RSPCA ac mae’r cwn Rocky a Brandy wedi’u maethu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.