Newyddion S4C

Cwest: Bachgen wedi marw o ganlyniad i 'anafiadau difrifol i'w wddf'

ITV Cymru 11/09/2024
Alexander Zurawski

Mae cwest i farwolaeth bachgen chwech oed o Abertawe wedi clywed iddo farw o ganlyniad i “anafiadau difrifol i’w wddf.”

Cafodd corff Alexander Zurawski ei ddarganfod gan y gwasanaethau brys yn ei gartref ar Glos Cwm Du, Gendros ar 29 Awst 2024. 

Mae ei fam, Karolina Zurawska, 41, wedi’i chyhuddo o ladd Alexander Zurawski, ac o geisio llofruddio ei thad 67 oed.

Mae wedi ei chadw yn y ddalfa wrth ddisgwyl achos llys.

Wrth roi tystiolaeth yn agoriad y cwest, eglurodd y Ditectif Arolygydd David Butt o Heddlu De Cymru bod Alexander Zurawski wedi colli llawer o waed o ganlyniad i’w anafiadau.

Dywedodd David Butt: “Fe aeth swyddogion i’r eiddo ar ôl i bryderon gael eu codi gan drigolion lleol.

“Fe wnaeth yr heddlu ddarganfod y plentyn chwech oed ag anafiadau difrifol i'w wddf ac roedd wedi colli gwaed. 

“Cafodd ei fam ei harestio ar amheuaeth o’i lofruddio.”

Nid oedd teulu Alexander Zurawski yn bresennol yn y cwest heddiw.

Gohiriodd Crwner Abertawe, Aled Wyn Gruffydd y cwest tan ddiwedd yr achos troseddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.