Dim twf yn economi'r DU am yr ail fis yn olynol
Nid oedd twf yn economi'r DU ym mis Gorffennaf am yr ail fis yn olynol, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Roedd data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddydd Mercher yn dangos bod ffigyrau GDP wedi crebachu yn yr wythnosau ar ôl etholiad Llywodraeth Prydain.
Mae GDP yn fesur o faint ac iechyd economi gwlad dros gyfnod o amser, fel arfer dros chwarter blwyddyn neu flwyddyn. Caiff ei ddefnyddio hefyd i gymharu maint gwahanol economïau ar adegau gwahanol.
Nid oedd economegwyr wedi rhagweld y diffyg twf yn yr economi.
Roedd y rhai a gafodd eu holi gan asiantaeth newyddion Reuters wedi darogan y byddai'r economi yn tyfu 0.2%.
Daw’r data diweddaraf ar ôl i’r economi barhau i adfer yn dilyn cyfnod o ddirwasgiad ddiwedd y llynedd, gyda thwf o 0.6% rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.
Ond mae gobeithion economegwyr am adferiad cryfach yn edrych yn ansicr ar ôl deufis o ddiffyg twf.
'Dim newid dros nos'
Dywedodd y Canghellor Rachel Reeves na fydd newid dros nos i'r economi.
"Nid wyf dan unrhyw gamargraff ynghylch maint yr her sy’n ein hwynebu a byddaf yn onest â phobol Prydain na fydd newid yn digwydd dros nos," meddai.
"Nid yw dau chwarter o dwf economaidd cadarnhaol yn cyfrif am 14 mlynedd o ddiffyg twf."
Ychwanegodd: "Dyna pam rydyn ni’n gwneud y penderfyniadau hirdymor nawr i osod sylfeini ein heconomi.”